Neidio i'r prif gynnwy

I ble fydda i'n mynd ar gyfer fy apwyntiaday o 1 Ebrill 2024?

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae Meddygfa'r Tymbl wedi cael ei defnyddio'n bennaf fel canolfan ar gyfer y tîm gweinyddol ac ar gyfer rhai apwyntiadau nyrsys, gyda'r rhan fwyaf o apwyntiadau meddygon teulu yn cael eu darparu o Ganolfan Iechyd Cross Hands.

Yn anffodus, mae’r Bwrdd Iechyd wedi cael gwybod yn ddiweddar iawn gan berchnogion adeilad Meddygfa’r Tymbl na fydd y cyfleuster hwn ar gael i’w brydlesu o 1 Ebrill. Mae hyn yn golygu - wrth symud ymlaen - y bydd yr holl apwyntiadau a gwasanaethau yn cael eu darparu o Ganolfan Iechyd Cross Hands.

Mae'r bwrdd iechyd yn gweithio ar frys gyda'r bartneriaeth i flaenoriaethu'r newidiadau angenrheidiol i Ganolfan Iechyd Cross Hands i ddarparu ar gyfer yr apwyntiadau a staff o Feddygfa'r Tymbl.

Mae cynlluniau hefyd yn mynd rhagddynt ar gyfer Canolfan Iechyd a Llesiant Newydd yn Cross Hands, a’r gobaith yw y bydd y feddygfa’n gallu dechrau darparu gwasanaethau o’r adeilad modern a phwrpasol hwn yn 2026. 

Fodd bynnag, mae’r bwrdd iechyd yn deall y gallai cau Meddygfa’r Tymbl effeithio ar rai cleifion ac os yw hyn yn effeithio arnoch chi a’r ffordd rydych yn cyrchu gwasanaethau, cysylltwch â ni dros y ffôn ar 0300 303 8322 (opsiwn 5), ebostiwch ask.hdd@wales.nhs.uk neu ysgrifenwch at FREEPOST HYWEL DDA HEALTH BOARD.

I gael gwybodaeth bellach, ffoniwch Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar 0300 303 8322 (opsiwn 5) neu ebostiwch ask.hdd@wales.nhs.uk