Neidio i'r prif gynnwy

Beth fydd yn newid i gleifion?

Bydd Partneriaeth Aman Tawe yn dechrau darparu gofal i gleifion o 1 Ebrill 2024. Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth; bydd eich cofrestriad yn cael ei ddiweddaru'n awtomatig. Mae'r bwrdd iechyd yn cefnogi'r ddwy feddygfa i sicrhau bod y cyfnod pontio mor ddi-drafferth â phosibl.

Ar gyfer apwyntiadau a phresgripsiynau, cysylltwch â'r feddygfa fel arfer. Os ydych chi'n defnyddio'r gwasanaeth ar-lein a elwir yn e-Consult, bydd y gwasanaeth hwn yn symud i'r Ap My Surgery. Mae'r feddygfa’n hapus i'ch helpu i drosglwyddo i'r ap newydd.

Os ydych fel arfer yn archebu eich presgripsiwn trwy Fferyllfa Gymunedol leol, dylech barhau i wneud hynny.