Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad ar ymweld â Ward Teifi yn Ysbyty Glangwili

Arwydd Ysbyty Glangwili

14 Hydref 2026

Mae cyfyngiadau ymweld ar Ward Teifi yn Ysbyty Glangwili wedi cael eu codi o heddiw, dydd Mercher 14 Hydref, yn dilyn adolygiad o’r nifer o achosion presennol o scabies. 

Mae'r risg i'r cyhoedd ehangach yn parhau i fod yn isel ac mae arferion hylendid da, chwilio am gyngor os daw symptomau i'r amlwg, a dilyn argymhellion triniaeth os oes eu hangen, i gyd yn chwarae rôl bwysig wrth helpu i leihau lledaeniad scabies.

I gael rhagor o wybodaeth am scabies a sut i'w adnabod a'i drin, ewch i'n hadran Scabies (agor mewn dolen newydd).