21 Hydref 2026
Mae ymweliadau â Ward Dyfi yn Ysbyty Bronglais yn cael eu cyfyngu o heddiw, dydd Mercher 21 Hydref, oherwydd achosion o Clostridioides difficile (a elwir hefyd yn C. difficile neu C.diff).
Mae'r ward ar gau i gleifion newydd ac mae ymweliadau yn cael eu cyfyngu. Mae cleifion yr effeithir arnynt yn cael eu hynysu, a bydd y cyfnod cau yn galluogi adolygiad a gwaith glanhau i gael eu cynnal.
Atgoffir pobl i beidio ag ymweld â chleifion yn yr ysbyty os ydynt yn teimlo'n sâl. Gwneir hyn er mwyn cyfyngu ar ledaeniad haint a sicrhau bod ein cleifion mor ddiogel ac iach â phosibl.
Mae C.diff yn fath o facteria a all achosi dolur rhydd, weithiau pan fydd gwrthfiotigau yn tarfu ar gydbwysedd arferol y bacteria yn y perfedd. Mae'n un o'r bacteria 'arferol' a geir weithiau mewn oedolion iach. Fe'i ceir hefyd, heb achosi niwed, ymhlith y bacteria sy'n bresennol yn naturiol ym mherfedd babanod.
Mae'r symptomau'n cynnwys dolur rhydd o raddau amrywiol o ddifrifoldeb ac, mewn achosion prin, llid difrifol yn y perfedd. Gall symptomau eraill gynnwys twymyn, colli archwaeth, cyfog, a phoen yn yr abdomen.
I gael rhagor o wybodaeth am C.diff, ewch i wefan GIG Cymru 111 (yn agor mewn dolen newydd).