16 Hydref 2026
Oherwydd achosion o scabies, mae ymweliadau â Ward Bryngolau yn Ysbyty Tywysog Philip yn cael eu cyfyngu o heddiw, dydd Gwener 16 Hydref.
Mae'r sefyllfa'n cael ei hadolygu'n rheolaidd, ac mae'r risg i'r cyhoedd ehangach yn parhau i fod yn isel.
Bydd unrhyw gleifion sydd wedi cael eu rhyddhau o'r ward yn ddiweddar yn cael eu cysylltu'n uniongyrchol.
Iechyd, diogelwch a lles ein cleifion, ymwelwyr a staff yw ein blaenoriaeth. Rydym yn dilyn canllawiau cenedlaethol ac wedi cymryd camau ychwanegol i leihau'r risg y bydd haint yn lledaenu.
Mae scabies yn gyflwr croen cyffredin a achosir gan widdonyn microsgopig, a gall effeithio ar bobl o bob oed. Er ei fod yn heintus iawn – trwy gyswllt croen-i-groen hirfaith neu rannu dillad gwely a dillad – yn enwedig ymhlith partneriaid ac aelodau o'r un aelwyd, nid yw fel arfer yn gysylltiedig â salwch difrifol a gellir ei drin yn effeithiol. Mae'n bwysig nodi nad oes cysylltiad rhwng scabies a hylendid personol gwael, a gall effeithio ar unrhyw un.
I gael rhagor o wybodaeth am scabies a sut i'w adnabod a'i drin, ewch i'n hadran Scabies (agor mewn dolen newydd).