Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad ar gyfyngiadau ymweld – ysbytai Glangwili a Llwynhelyg

19 Gorffennaf 2022

Yn dilyn adolygiad ffurfiol o weithgarwch COVID-19 yn ei ysbytai, gall Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gadarnhau y bydd cyfyngiadau ar y rhai sy’n ymweld â chleifion mewnol yn cael eu codi yn ysbytai Glangwili a Llwynhelyg o ddydd Mercher 20  Gorffennaf 2022.

Mae’r canllawiau ymweld canlynol ar waith ar gyfer unedau mamolaeth, newyddenedigol a phediatrig:

    • Mamolaeth – bydd presenoldeb partner cefnogol yn parhau i gael ei gefnogi;
    • Newyddenedigol – rhieni bob amser gydag ymweliadau cyfyngedig i neiniau a theidiau;
    • Pediatrig - gall dau riant/gofalwr ymweld.


Mae ymweliadau ag Ysbyty Bronglais, Ysbyty Tywysog Philip a’n hysbytai cymunedol yn parhau ar agor, trwy apwyntiad yn unig.

Cynghorir y cyhoedd y bydd yn ofynnol gwisgo gorchudd wyneb yn ysbytai Glangwili, Tywysog Philip a Llwynhelyg, a thrwy asesiad risg mewn safleoedd/ardaloedd eraill.

Dywedodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf: “Yr wythnos diwethaf bu’n rhaid i ni wneud y penderfyniad i ymestyn mesurau yn Ysbyty Glangwili yn ogystal ag Ysbyty Llwynhelyg i leihau’r risg i’n cleifion a’n staff a diolchwn i bobl am eu cefnogaeth a’u chydweithrediad.

“Gallwn ni i gyd barhau i gymryd mesurau amddiffynnol i leihau’r risg o drosglwyddo COVID-19 i amddiffyn pobl sy’n agored i niwed a’r GIG.

“Rydym yn cynghori’n gryf i unrhyw un yn ein hardal sydd â’r symptomau cyffredin, neu sy’n amau ​​bod ganddyn nhw COVID-19 i ynysu a sefyll prawf LFD. Os yw’n bositif, rydym yn annog pobl i ynysu – bydd hyn yn eich helpu i orffwys a gwella wrth amddiffyn eraill rhag y risg o drosglwyddo.”

Os oes gennych symptomau COVID-19 gallwch barhau i archebu prawf LFD yng Nghymru am ddim, tan 31 Gorffennaf, drwy fynd i www.gov.uk (agor yn dolen newydd) a chwilio ‘archebu pecyn prawf llif ochrol’. Os nad ydych chi, neu rywun yr ydych yn gofalu amdano ar-lein, gallwch ffonio 119 rhwng 7am ac 11pm (gall pobl ag anawsterau clyw neu leferydd ffonio 18001 119)

Cyngor iechyd y cyhoedd yw parhau i ynysu os byddwch yn cael canlyniad cadarnhaol, naill ai am 10 diwrnod, neu ar ôl dau ganlyniad LFD negyddol yn olynol o ddiwrnodau 5 a 6.