22 Tachwedd 2024
Yn ei gyfarfod Bwrdd nesaf ar 28 Tachwedd 2024, bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn trafod y cynnydd a’r camau nesaf sydd angen eu cymryd i gyflawni ei strategaeth a’i weledigaeth ar gyfer canolbarth a gorllewin Cymru iachach.
Bydd y Bwrdd yn trafod cyflawniadau a wnaed, sy'n cynnwys cefnogi mwy o gleifion yn y gymuned, datblygu hybiau cymunedol a gwelliannau i lefelau staff nyrsio.
Bydd y Bwrdd hefyd yn ystyried heriau i'r strategaeth. Mae’r rhain yn cynnwys yr ysbyty newydd arfaethedig yn ne Hywel Dda na fydd yn weithredol am ddegawd arall o leiaf, gyda llawer o wasanaethau’n parhau i fod yn fregus, ac yn darparu gofal ar ystadau sy’n heneiddio a gyda heriau sylweddol yn y gweithlu meddygol.
Bydd diweddariad o ymgysylltu diweddar am wasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol yn cael ei ddarparu, yn ogystal â chanfyddiadau o'r broses datblygu opsiynau ar gyfer naw gwasanaeth clinigol (Cynllun Gwasanaethau Clinigol).
Y naw gwasanaeth yw Gofal Critigol, Llawfeddygaeth Gyffredinol Frys, Strôc, Endosgopi, Radioleg, Dermatoleg, Offthalmoleg, Orthopedeg ac Wroleg. Maent yn wasanaethau sy’n fregus ac sydd angen newid a chymorth i barhau i ddarparu gofal diogel i’n poblogaethau yn y tymor canolig.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Chynllunio, Lee Davies: “Byddwn yn rhoi diweddariad i’r Bwrdd ar ein strategaeth a’r trawsnewid sydd ei angen i ymateb i fregusrwydd a gwella gofal i’r boblogaeth. Bydd y Bwrdd yn trafod ac yn cytuno ar ddatblygiad cynlluniau ar gyfer 2025-2026 a thu hwnt.”
Gall unrhyw un fynychu cyfarfodydd Bwrdd i arsylwi, gan eu bod yn cael eu cynnal yn gyhoeddus, neu gallwch eu gwylio ar-lein (agor mewn dolen newydd).
Gall y rhai sydd â diddordeb mewn cymryd rhan mewn ymgysylltu yn y dyfodol neu a hoffai gael y wybodaeth ddiweddaraf am waith y bwrdd iechyd ar ddyfodol gwasanaethau’r Cynllun Gwasanaethau Clinigol ymuno â chynllun ymgysylltu Hywel Dda - Siarad Iechyd/Talking Health (agor mewn dowlen newydd).