Neidio i'r prif gynnwy

Disgyblion yn arwain y ffordd o ran hyrwyddo iechyd a lles

Students and teaching sitting outside of school

23 Gorffennaf 2025

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi canmol ymdrechion ysbrydoledig disgyblion yn ysgolion Tafarnspite a Templeton, sy'n hyrwyddo dull ysgol gyfan o lesiant emosiynol a meddyliol.

Yn ystod ymweliad yn gynharach eleni, croesawyd Dr Ardiana Gjini, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd, gan ddisgyblion a'i chymryd ar daith yn arddangos yr ystod eang o fentrau sydd ar waith i gefnogi iechyd a llesiant cymuned gyfan yr ysgol.

Fel rhan o'u hymrwymiad i ddod yn Ysgolion Hyrwyddo Iechyd, cyflwynodd plant o'r ddwy ysgol eu dull o weithredu i Hywel Dda, gan amlygu gweithgareddau sy'n annog arferion iach fel gweithgaredd corfforol, bwyta'n faethlon, diogelwch personol, gofal amgylcheddol, hylendid, a pherthnasoedd cadarnhaol.

School students presenting in boardroom

Mae'r ysgolion hefyd wedi sefydlu TEaM – Llesiant Emosiynol a Meddyliol Tafarnspite/Templeton, sef grŵp dan arweiniad disgyblion sy'n sicrhau bod iechyd emosiynol a meddyliol yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Yn nodedig, nhw yw'r ysgolion parkrun cyntaf yn y DU, gan ddangos ymhellach eu dull arloesol o hyrwyddo ffyrdd o fyw egnïol.

Dywedodd y Pennaeth Kevin Phelps:

“Bod yn ysgol sy’n hyrwyddo iechyd yw’r gwaith pwysicaf a wnawn. Fel ffederasiwn o ysgolion, rydym yn credu’n gryf mewn cefnogi lles corfforol ac emosiynol ein staff, ein disgyblion a theuluoedd yr ysgol.

Mae’r nifer o arferion arloesol rydym wedi’u hymgorffori, er enghraifft, TEaM (ein rhaglen lles emosiynol a meddyliol), y filltir ddyddiol, Plentyndod Heb Ffonau Clyfar ac ysgolion parkrun, eisoes wedi cael effaith sylweddol ar iechyd cymuned ein hysgol.” 

Dywedodd Dr Ardiana Gjini: 

“Mae ysgolion yn lleoliad pwysig ar gyfer hyrwyddo a diogelu iechyd a lles cymuned gyfan yr ysgol. Mae ysgolion Tafarnspite a Templeton wedi dangos beth sy'n bosibl pan fydd iechyd ac addysg yn gweithio gyda'i gilydd.” 

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi gweithio mewn partneriaeth â'r ysgolion ers dros ddegawd, gan ddarparu cefnogaeth, hyfforddiant ac arweiniad drwy gydol eu taith hyrwyddo iechyd.

I ddysgu mwy am ewch i Dull Ysgol Gyfan ar gyfer Llesiant Emosiynol a Meddyliol (agor mewn dolen newydd).