23 Tachwedd 2023
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) wedi agor ei ganolfannau brechu ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro i bobl gymwys alw heibio i dderbyn eu brechlyn COVID-19, nid oes angen apwyntiad.
Gyda phwysau ychwanegol y gaeaf ar y GIG, mae’n bwysicach nag erioed bod y rhai sy’n gymwys i gael eu brechu er mwyn helpu i’w hatal rhag mynd yn ddifrifol wael ac amddiffyn y GIG y gaeaf hwn.
Mae pobl hŷn a’r rhai sydd â chyflyrau meddygol sylfaenol fel clefyd cardiofasgwlaidd, diabetes, canser neu glefyd anadlol cronig yn fwy tebygol o ddatblygu salwch difrifol a bod angen triniaeth ysbyty arnynt os ydynt yn dal COVID-19.
Gall pobl gymwys 12 oed a hŷn alw heibio rhwng nawr a’r Nadolig, fodd bynnag, mae’r bwrdd iechyd yn gofyn i unrhyw un sydd ag apwyntiad eisoes wedi’i drefnu gyda’u meddyg teulu neu fferyllfa gymunedol i gadw hwn lle bynnag y bo modd.
Os oes angen brechlyn ffliw arnoch hefyd, bydd y bwrdd iechyd hefyd yn cynnig hwn i chi pan fyddwch yn galw heibio os nad oes gennych apwyntiad ar y gweill i gael hwn gan eich meddyg teulu, fferyllfa gymunedol neu dîm nyrsio ysgol.
Dywedodd Dr Ardiana Gjini, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Ers mis Medi, mae’r Bwrdd Iechyd, meddygon teulu a fferyllfeydd cymunedol wedi gwahodd trigolion cymwys BIP Hywel Dda i dderbyn eu brechlynnau. Os nad ydych wedi cael cyfle i gael eich brechlyn eto, nawr yw’r amser i weithredu.
“Gyda thywydd oerach a chynulliadau dros y Nadolig gyda’n hanwyliaid hŷn a chlinigol agosaf, cael eich brechu neu gefnogi eich anwyliaid i gael y brechlyn yw’r anrheg gorau y gallwch ei roi.
“Mae brechlynnau'n dysgu'ch system imiwnedd sut i'ch amddiffyn rhag afiechydon. Mae'n llawer mwy diogel i'ch system imiwnedd ddysgu hyn trwy frechu na thrwy ddal y clefydau a cheisio eu trin.
“Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y brechlyn neu a ydych yn gymwys, mae croeso i chi gysylltu â’r bwrdd iechyd ar 0300 303 8322 neu drwy e-bostio ask.hdd@wales.nhs.uk a byddwn yn hapus i’ch cynghori.”
Rydych yn gymwys i gael brechiad atgyfnerthol yr hydref COVID-19 os ydych:
Sylwch fod y sesiynau galw heibio canlynol ar gyfer pobl 12 oed a hŷn. Os ydych chi neu aelod o’ch teulu o dan 12 oed ac yn gymwys i gael brechlyn COVID-19, cysylltwch â’ch practis meddyg teulu neu fel arall cysylltwch â’r bwrdd iechyd ar 0300 303 8322 neu e-bostiwch ask.hdd@wales.nhs.uk.
Sir Gaerfyrddin
Sir Benfro
Ceredigion