11 Mehefin 2025
Rydym yn gwahodd cleifion Meddygfa Penrhyn i rannu eu profiad fel claf o’u practis mewn digwyddiadau galw heibio sydd i’w cynnal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP).
Bydd tîm gofal sylfaenol y Bwrdd Iechyd ar gael yn Neuadd y Ddinas Tyddewi (SA62 6SD) ddydd Mawrth 24 Mehefin rhwng 2pm a 5.30pm ac yn Neuadd Goffa Solfach (SA62 6TE) ddydd Iau 26 Mehefin rhwng 2pm a 6pm.
Yn dilyn cyfnod o ymgysylltu yn 2024, sefydlwyd Meddygfa Penrhyn ym mis Tachwedd, gan ddwyn ynghyd y gofal a ddarperir gan feddygfeydd Solfach a Thyddewi ar gyfer cleifion sy’n byw ar draws y penrhyn.
Mae’r digwyddiadau galw heibio hyn yn rhoi cyfle i’r gymuned leol ddweud wrthym am eu profiad o’r Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol, ym Meddygfa Penrhyn yn dilyn y newidiadau, beth sy’n gweithio’n dda a beth y gellir ei wella.
Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym bellach tuag wyth mis ymlaen o sefydlu Meddygfa Penrhyn ac yn dilyn ein hymrwymiad i ymgysylltu â chleifion y practis i glywed am eu profiad. Mae’r adborth hyd yn hyn gan gleifion a chynrychiolwyr cymunedol wedi bod yn gadarnhaol ar y cyfan, sy’n glod i dîm y practis sydd wedi integreiddio’n dda.
“Rydyn ni’n gwybod bod lle i wella a datblygu o hyd, ac rydyn ni eisiau clywed gan gleifion a’n cymunedau sut gallwn ni barhau i wella’r gofal rydyn ni’n ei ddarparu.”
Mae’r digwyddiadau galw heibio hyn yn rhoi cyfle i gleifion a’r gymuned ehangach rannu eu profiadau o Feddygfa Penrhyn, ac i’n helpu i lunio gwasanaethau gofal cychwynnol lleol wrth symud ymlaen.
Gallwch hefyd rannu eich barn gan ddefnyddio un o’r dulliau canlynol: