Neidio i'r prif gynnwy

Digwyddiad ymgysylltu Meddygfa'r Sarn ychwanegol wedi'i gadarnhau ar gyfer Carwe

3 Mawrth 2026

Cynhelir cyfle ychwanegol i bobl rannu eu barn ar y newidiadau arfaethedig i wasanaethau meddygon teulu ym Meddygfa’r Sarn ym Mhont-iets yng Ngharwe ddydd Mawrth 31 Mawrth, rhwng 2pm a 6.30pm, yn Neuadd Carwe (SA17 4HE).

Gall cleifion ac aelodau’r gymuned alw heibio unrhyw bryd i siarad â chynrychiolwyr o’r bwrdd iechyd mewn trafodaethau grŵp bach.

Ar hyn o bryd mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ymgymryd â chyfnod ymgysylltu wyth wythnos, sy’n rhedeg o 9 Chwefror i 6 Ebrill 2026, i gasglu barn cleifion a’r gymuned leol ar y newidiadau arfaethedig i wasanaethau meddygon teulu ym Meddygfa’r Sarn.

Mae hyn yn dilyn penderfyniad y Bwrdd ym mis Ionawr i geisio adborth cyn gwneud penderfyniad ar argymhelliad i ddosbarthu rhestr y cleifion i feddygfeydd cyfagos.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r feddygfa wedi wynebu heriau staffio parhaus a sylweddol ac ar hyn o bryd nid oes ganddi unrhyw feddygon teulu wedi’u cyflogi’n barhaol. Mae’r adeilad ei hun yn fach ac yn cynnig cyfleusterau cyfyngedig. Ym mis Hydref 2025, yn unol â chanllawiau cenedlaethol, cynullodd y bwrdd iechyd Banel Ymarfer Gwag i adolygu opsiynau ar gyfer darparu gwasanaethau meddyg teulu yn yr ardal yn y tymor hir.

Mae'r argymhelliad a wnaed gan y Panel Ymarfer Gwag yn cynnig mai'r ateb mwyaf cynaliadwy yn y tymor hir i gleifion, ac i wasanaethau gofal sylfaenol yn ardal Aman Gwendraeth, yw trosglwyddo cleifion i'w meddygfa gyfagos agosaf. Gall hyn gynnwys Meddygfa Coalbrook ym Mhontyberem, Meddygfa Minafon yng Nghydweli, neu, i rai cleifion, meddygfeydd yn Llanelli.

Dywedodd Andrew Carruthers, Prif Swyddog Gweithredu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn falch o gynnig y cyfle ychwanegol hwn yng Nghaerwe i sicrhau bod mwy o bobl, yn enwedig y rhai mewn cymunedau cyfagos, yn cael y cyfle i siarad yn uniongyrchol â ni a rhannu eu barn am yr hyn y mae'r cynnig yn ei olygu iddynt.”

Gall cleifion barhau i roi adborth trwy gwblhau'r holiadur a bostiwyd i'w cyfeiriad cartref neu ei gwblhau ar-lein trwy wefan Dweud Eich Dweud www.dweudeichdweud.biphdd.cymru.nhs.uk (yn agor mewn dolen newydd).

Gall pobl hefyd rannu eu barn drwy ffonio Hwb Cyfathrebu’r bwrdd iechyd ar 0300 303 8322 (opsiwn 5), anfon e-bost at ask.hdd@wales.nhs.uk, neu gysylltu â Llais drwy westwalesenquiries@llaiscymru.org neu 01646 697610.

Bydd adborth a gesglir drwy gydol y cyfnod ymgysylltu yn helpu’r bwrdd iechyd i ddeall sut y gallai unrhyw drosglwyddiad posibl o gleifion i feddygfeydd teulu cyfagos effeithio ar gleifion, a’r hyn sydd bwysicaf i’r gymuned wrth ddarparu gwasanaethau gofal sylfaenol lleol.

Bydd yr holl adborth a gyflwynir erbyn 6 Ebrill yn cael ei gasglu a’i gyflwyno i’r Bwrdd cyn ei gyfarfod ar 28 Mai, pan fydd yr argymhelliad yn cael ei ystyried.

Mae Meddygfa’r Sarn yn parhau ar agor fel arfer yn ystod y cyfnod ymgysylltu.