Neidio i'r prif gynnwy

Digwyddiad hanesyddol ar draws Hywel Dda gyda staff ymhlith y cyntaf yn y byd i gael brechlyn Covid

Mae’n foment hanesyddol yn BIP Hywel Dda y bore ‘ma gyda staff sy’n ymwneud yn uniongyrchol â chleifion o bob rhan o’r Bwrdd Iechyd ymhlith y cyntaf yn y byd i gael y brechlyn COVID-19.

Nicola Drake, Ymgynghorydd yn Uned Damweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Llwynhelyg, ac Arweinydd Clinigol Meddygaeth Frys, oedd y person cyntaf yn Hywel Dda i gael y brechlyn Pfizer / BioNTech.

Dywedodd: ““Rwy’n gyffrous iawn ac yn teimlo’n freintiedig i fod y person cyntaf yn Hywel Dda i gael y brechlyn Covid-19. Roedd yn hawdd iawn ac ni wnes i deimlo unrhyw beth. Credaf y dylai pob un sy’n gymwys i gael y brechlyn ei gael, yn enwedig os ydych yn un o’r grwpiau risg mwyaf.”

Meddai Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus yn Hywel Dda: “Mae dyfodiad brechlyn COVID-19 yr wythnos hon yn ddigwyddiad ddaw â tro ar fyd, sy’n rhoi gobaith inni ar ddiwedd 2020.

“Rydym ar flaen y gad yn y tirnod hanesyddol hwn yn y pandemig ac yma yn BIP Hywel Dda byddwn yn brechu 975 aelod o staff yr wythnos hon, sy’n anhygoel o ystyried cyflymder y datblygiad hwn.

“Rydym yn gofyn i’n cymuned fod yn amyneddgar gan y bydd yn cymryd nifer o wythnosau i frechu hyd yn oed y bobl hynny o fewn y ddau faes blaenoriaeth cyntaf y cytunwyd arnynt yn genedlaethol. Bydd brechlyn ar gyfer pob person sydd am gael un.”