Neidio i'r prif gynnwy

Digwyddiad galw heibio i gael gwybodaeth am Uned Mân Anafiadau Llanelli

14 Hydref 2024

Gwahoddir aelodau o'r gymuned leol yn Llanelli i fynychu digwyddiad galw heibio i ddysgu mwy am newidiadau dros dro sydd i ddod i oriau agor yr Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Tywysog Philip.

Gall pobl alw heibio i’r digwyddiad, yng Nghanolfan Antioch, unrhyw bryd rhwng 2pm a 7pm ddydd Mercher 23 Hydref 2024.

Byddant yn gallu dysgu mwy am pam mae angen y newid dros dro, sut i gael mynediad at ofal mewn gwahanol amgylchiadau, a beth fydd y camau nesaf ar gyfer ymgysylltu ymhellach â’r gymuned.

Bydd staff Bwrdd Iechyd Hywel Dda, gan gynnwys staff clinigol o Uned Mân Anafiadau’r ysbyty, yr Uned Asesu Meddygol Acíwt, a’r gwasanaeth y Tu Allan i Oriau ar gael i siarad â phobl ac ateb unrhyw gwestiynau.

O ddydd Gwener 1 Tachwedd 2024, am gyfnod o chwe mis, bydd yr Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Tywysog Philip ar agor o 8am tan 8pm, saith diwrnod yr wythnos.

Mae’r Uned Mân Anafiadau yn darparu gofal i oedolion a phlant dros 12 mis oed gyda mân anafiadau megis mân glwyfau, mân losgiadau neu sgaldiadau, mân anafiadau i’r coesau, brathiadau a phigiadau, cyrff estron yn y glust neu’r trwyn, a mân anafiadau i’r llygaid.

Mae'r newid dros dro i oriau agor, sy'n effeithio ar yr Uned Mân Anafiadau yn unig, wedi'i roi ar waith i ddiogelu cleifion a staff oherwydd nad oes gan yr Uned Mân Anafiadau’r meddygon teulu priodol yn eu lle gyda'r nos a thros nos.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf (1 Hydref 2023 – 30 Medi 2024), defnyddiodd tua 31,000 o gleifion yr Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Tywysog Philip, gyda thua 25,000 o gyflwyniadau yn ystod y dydd a 6,000 o gyflwyniadau gyda’r nos.

Bu problemau wrth sicrhau meddygon â chymwysterau addas i gyflenwi yn yr uned. Er enghraifft, yn y cyfnod o bum mis rhwng Chwefror 2024 a Gorffennaf 2024, roedd 42 o slotiau heb eu llenwi, gyda 23 ohonynt dros nos ac 16 yn slotiau prynhawn/nos.

Mae Uned Asesu Meddygol Acíwt yr ysbyty, sy’n darparu gofal brys i gleifion meddygol sâl iawn, fel y rhai sydd wedi dioddef strôc neu drawiad ar y galon, yn parhau i fod yn wasanaeth 24/7 yn Ysbyty Tywysog Philip ac nid yw’n rhan o’r newid dros dro hwn.

Mae cleifion yn cael eu cludo i'r uned hon yn uniongyrchol gan y gwasanaeth ambiwlans, neu'n cael eu hatgyfeirio gan eu meddyg teulu, neu gan y gwasanaeth y Tu Allan i Oriau.

Bydd y gwasanaeth y Tu Allan i Oriau lleol yn parhau i weithredu o Ysbyty Llanelli a gellir ei gyrchu trwy ffonio GIG 111 Cymru pan nad yw eich meddygfa ar agor (rhwng 6.30pm ac 8am dydd Llun i ddydd Gwener, penwythnosau a Gwyliau Banc). Dim ond trwy drefniant gyda GIG 111 Cymru y gwelir cleifion gan nad yw hwn yn wasanaeth ‘galw i mewn’.

Dywedodd Jon Morris, Arweinydd Clinigol yr Uned Mân Anafiadau: “Er mwyn sicrhau diogelwch a hyder y bobl sy’n mynychu’r uned mân anafiadau, mae angen i ni allu darparu gwasanaeth sy’n addas i’r diben yn ystod yr holl oriau agor.

“Mae’r anallu i gyflenwi’r rota’n gyson, gyda meddygon â chymwysterau addas, yn enwedig gyda’r nos a thros nos, yn peri risg i’n cleifion a’n staff, gydag absenoldebau staff wedyn yn gwaethygu’r broblem.”

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Clinigol yr Ysbyty, Robin Ghosal: “Tra bod y newid dros dro hwn ar waith, mae’n bwysig pwysleisio bod Ysbyty Tywysog Philip yn parhau i ddarparu gofal meddygol acíwt i’r boblogaeth leol. Daw'r achosion hyn i'r uned drwy ambiwlans neu drwy atgyfeiriad gan Feddyg Teulu. Byddwn yn gweithio'n agos gyda meddygon teulu ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i sicrhau bod y cleifion hyn yn parhau i gael eu gweld yn Ysbyty Tywysog Philip, fel eu hysbyty agosaf, yn ystod y newid dros dro hwn i'r Uned Mân Anafiadau. Mae hyn yn golygu ein bod yn parhau i ofalu am argyfyngau meddygol yn Ysbyty Tywysog Philip ac mewn amgylchiadau arferol, ni fydd y rhain yn cael eu dargyfeirio i Ysbyty Glangwili nac Ysbyty Treforys.”

Cyngor i bobl am gael mynediad at y gofal sydd ei angen arnynt:

  • Os oes angen help arnoch gyda mân anafiadau rhwng 8am ac 8pm, gall pobl barhau i gyflwyno eu hunain (cerdded i mewn) i'r Uned Mân Anafiadau, yn Ysbyty Tywysog Philip. I gael rhagor o wybodaeth am sut y gall yr Unedau Mân Anafiadau eich helpu – ewch i  Unedau mân anafiadau - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru) (yn agor mewn dolen newydd)  
  • Os oes gennych fân anaf y tu allan i’r oriau hyn, na all aros tan y diwrnod canlynol, neu, os ydych yn sâl ac yn ansicr pa gymorth y gallai fod ei angen arnoch, ewch i wiriwr symptomau GIG Cymru ar wefan  GIG 111 Cymru - Hafan (yn agor mewn dolen newydd); neu ffoniwch GIG 111 Cymru
  • Os oes angen cyngor iechyd meddwl arnoch sy’n frys ac nid yn argyfwng, ffoniwch 111 (Opsiwn 2) a byddwch yn cael y cyngor a’r cymorth gorau sydd eu hangen arnoch.
  • Gallwch fynd at eich meddyg teulu, fferyllfa gymunedol, optometrydd (optegydd) neu ddeintydd yn y ffordd arferol. Y tu allan i oriau, gallwch gysylltu â'r gwasanaeth y Tu Allan i Oriau drwy ffonio GIG 111 Cymru.
  • Mewn argyfwng sy’n bygwth bywyd, ffoniwch 999.