Mae Dŵr Cymru wedi cyhoeddi bod problemau gweithredol yn Aberteifi, Llanbedr Pont Steffan, Llandysul, Aberaeron a’r cyffiniau ledled Gorllewin Cymru sy'n effeithio ar y cyflenwad i gwsmeriaid yn yr ardal.
Mae hyn hefyd yn effeithio ar gyflenwad dŵr i’r Ganolfan Gofal Integredig Aberaeron, yn Nhanyfron. Mae’r ganolfan yn parhau i fod ar agor, ond mae’r cyflenwad dŵr yn brin.
Er mwyn cadw’n saff ac yn iach yn ystod y cyfnod hwn, mae cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gael yma (agor mewn dolen newydd) ac ar eu gwefan: Digwyddiadau tywydd eithafol - Iechyd Cyhoeddus Cymru (agor mewn dolen newydd)
Mae'r Cyngor yn gweithio gyda busnesau lleol a sefydliadau partner i ddod o hyd i ddŵr a'i ddosbarthu i'r bobl fwyaf bregus. Am yr wybodaeth ddiweddaraf, gan gynnwys sut mae’r broblem yn effeithio ar wassanaethau’r Cyngor,ewch i wefan y Cyngor yma (agor mewn dolen newydd)
Gellir darllen mwy o wybodaeth ar wefan Dŵr Cymru (agor mewn dolen newydd)