23 Gorffennaf 2025
Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Neuadd y Dref Abergwaun, yn Ystafell y Cyngor Tref ddydd Iau 31 Gorffennaf rhwng 10 y bore a chanol dydd, ac yn gwahodd trigolion lleol i alw heibio a rhannu eu barn ar newidiadau arfaethedig i wasanaethau gofal iechyd.
Bydd y tîm ar gael i drafod yr ymgynghoriad ar y Cynllun Gwasanaethau Clinigol, sy'n cynnwys opsiynau ar gyfer gwella naw gwasanaeth allweddol ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o'r ymgynghoriad parhaus ar y rhaglen Cynllun Gwasanaethau Clinigol. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ceisio barn ar naw gwasanaeth gofal iechyd i wella mynediad a safonau ac ymdrin â heriau presennol. Y gwasanaethau sydd wedi'u cynnwys yn yr ymgynghoriad yw gofal critigol, dermatoleg, llawfeddygaeth gyffredinol frys, endosgopi, offthalmoleg, orthopaedeg ddewisol, radioleg, strôc ac wroleg.
P'un a ydych chi'n glaf, gofalwr, aelod o staff neu â diddordeb mewn gofal iechyd lleol, rydym yn eich croesawu i alw heibio am sgwrs ac i ofyn cwestiynau. Nid oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud, ac mae eich adborth yn bwysig.
Mae gwybodaeth am yr ymgynghoriad, gan gynnwys manylion y digwyddiad, yr holiadur a'r dogfennau mewn fformatau ac ieithoedd hygyrch, ar gael ar dudalennau gwe penodol y Bwrdd Iechyd yma: https://biphdd.gig.cymru/ymgynghoriad-gwasanaethau-clinigol
I gael rhagor o wybodaeth ac i gwblhau holiadur yr ymgynghoriad, ewch i'n gwefan neu cysylltwch â ni yn hyweldda.engagement@wales.nhs.uk neu ffoniwch 0300 303 8322, opsiwn 5, (cyfraddau galwadau lleol).