Hoffai Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda longyfarch sawl tîm yn ein siroedd am eu llwyddiant diweddar wrth ennill eu dyfarndaliadau Buddsoddwyr mewn Gofalwyr.
Bwriad y cynllun Buddsoddwyr mewn Gofalwyr yw helpu sefydliadau iechyd, gofal cymdeithasol, y trydydd sector a sefydliadau eraill i ganolbwyntio ar eu hymwybyddiaeth o ofalwyr a'r help a'r cymorth a roddant i ofalwyr, a gwella'r rhain. Mae'r cynllun yn cael ei ddarparu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ac yn cael ei gefnogi gan ei bartneriaid o'r awdurdod lleol a'r trydydd sector yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Mae Tŷ Shalom, cartref gofal lliniarol yn Nhyddewi, Sir Benfro wedi cael ei gydnabod am ei ymrwymiad i ofalwyr.
Dywedodd Judith Thomas, rheolwr busnes y cartref: “Mae hyn yn gydnabyddiaeth o'r gefnogaeth a’r seibiant yr ydym yn eu rhoi i ofalwyr sy’n gwneud cymaint i wella bywydau eu hanwyliaid – rydym yn deall ac rydym yn gofalu.”
Dywedodd Elaine Lorton, Cyfarwyddwr Sir Benfro ar gyfer y Bwrdd Iechyd: “Mae mor gadarnhaol gallu cydnabod y rôl arwyddocaol y mae ein partneriaid yn y trydydd sector yn ei chwarae wrth gefnogi gofalwyr ledled Sir Benfro.
“Tŷ Shalom yw’r sefydliad cyntaf o’r fath i ennill y gydnabyddiaeth hon, ac mae hyn yn amlygu ei ymroddiad a’i ymrwymiad.”
Mae Tîm o Amgylch y Teulu Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ennill dyfarniad efydd Buddsoddwyr mewn Gofalwyr. Trwy gymryd rhan yn y cynllun, datblygodd y tîm ei ymwybyddiaeth o ofalwyr a'i ddulliau o gefnogi teuluoedd.
Dywedodd Yvonne Hutchinson-Ruff, Rheolwr y Tîm o Amgylch y Teulu: “Mae’r tîm yn ddiolchgar i Dolan Thomas am gymryd yr awenau wrth ddatblygu arfer gorau a choladu tystiolaeth ar gyfer y dyfarniad.
”Bydd y Tîm o Amgylch y Teulu yn parhau i nodi a chefnogi gofalwyr yn Sir Gaerfyrddin.”
Mae Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ennill ei ddyfarniad efydd i gydnabod y cymorth y mae'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn ei roi i ofalwyr.
Dywedodd Leanne McFarland, Swyddog Gwybodaeth i Deuluoedd a Gofal Plant (Arweinydd Gofalwyr): "Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i barhau i weithio ochr yn ochr â'r Gwasanaeth Gofalwyr i gefnogi gofalwyr yn Sir Gaerfyrddin o ran eu gwybodaeth a'u lles.”
Mae Ward Morlais yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili wedi cael llwyddiant yn ddiweddar, ar ôl cael ei hailddilysu ar gyfer y dyfarniad efydd yn ddiweddar.
Dywedodd Natasha Mitchell, Rheolwr y Ward: “Rydym yn hynod falch ein bod nid yn unig wedi ennill y dyfarniad 'efydd', ond wedi ei gynnal, gyda'r nod o symud ymlaen a chyflawni'r dyfarniad arian.
“Mae wedi bod yn gyflawniad hyd yn oed yn fwy boddhaus ennill y dyfarniad yn ystod yr amseroedd anodd hyn. Rydym wedi gweithio ledled y tîm amlddisgyblaethol i sicrhau bod gofalwyr a'u teuluoedd yn cael eu cefnogi, a'r nod yw cario hyn ymlaen er mwyn cynnal lefel o ofal sy'n wir yn canolbwyntio'n ar y claf a'r teulu.”