Neidio i'r prif gynnwy

Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn Hywel Dda

I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynnal wythnos o weithgareddau i staff eu mwynhau gan gynnwys lansio ei Bolisi Sgiliau Dwyieithog newydd.

 

Bob blwyddyn, mae Tîm Gwasanaethau’r Gymraeg y bwrdd iechyd yn hyrwyddo’r diwrnod cenedlaethol hwn trwy annog staff i ddysgu Cymraeg neu wella eu sgiliau presennol, a hynny trwy greu cyfleoedd i staff ddefnyddio’r iaith.

 

Meddai Emma Evans, Uwch-swyddog Iaith: “Mae dathlu ein diwylliant Cymraeg yn bwysig ac mae rhaglen Gŵyl Ddewi’r wythnos hon yn gyfle i staff Hywel Dda i gofleidio’r iaith, a chymryd rhan mewn amryw ffyrdd i’w dysgu – yn y pen draw, ein cleifion fydd yn elwa o hyn.”  

 

Mae rhaglen yr wythnos yn cynnwys cyflwyno cardiau fflach i staff cymunedol, sesiynau rhithwyr dysgu Cymraeg a gweithgareddau amrywiol eraill i helpu staff i fagu hyder yn eu sgiliau.

 

“Ein nod yw i’r bwrdd iechyd allu darparu gwasanaeth gofal iechyd dwyieithog rhagorol i’n cymunedau.’’

 

Crewyd y rhaglen i godi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg a chyfrannu at uchelgais Llywodraeth Cymru o filiwn o bobl yn medru ac yn mwynhau’r Gymraeg erbyn 2050.

 

Meddai Lisa Gostling, Cyfarwyddwr Y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol: “Mae gennym ddyletswydd gofal ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i’n holl gleifion. Mae gallu darparu gwasanaeth iechyd dwyieithog i’n cymunedau i sicrhau eu bod yn cael eu gofal iechyd yn eu dewis iaith yn ffordd inni ychwanegu gwerth gwirioneddol at gysur a llesiant ein cleifion.”

 

Mae'r bwrdd iechyd wedi cynhyrchu clip fideo byr yn amlinellu prif nod y polisi a gweledigaeth y bwrdd iechyd ar gyfer y Gymraeg yn y gweithle.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

I gael y newyddion diweddaraf o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ewch i hduhb.wales.nhs