21 Mehefin 2023, diweddariad am 18:45
Gallwn gadarnhau fod y digwyddiad traffig yn Ysbyty Llwynhelyg yn gynharach heddiw bellach wedi dod i ben ac mae safle’r digwyddiad wedi ei chlirio. Hoffem ddiolch i bawb am eu cydweithrediad tra bod y sefyllfa'n cael ei rheoli, mae'r holl wasanaethau a mynediad i safle'r ysbyty wedi dychwelyd i'r arfer.
21 Mehefin 2023
Meddai Andrew Burns, Cyfarwyddwr Ysbyty yn Ysbyty Llwynhelyg: “Amser cinio heddiw, bu digwyddiad traffig ar safle Ysbyty Llwynhelyg ac mae Heddlu Dyfed Powys yn bresennol.
“Mae’r rhai a anafwyd yn y digwyddiad yn cael y gofal meddygol priodol a gofynnwn yn garedig i bobl beidio â chysylltu â’r ysbyty am fanylion pellach ar hyn o bryd.
“Mae gwasanaethau’n parhau i weithredu fel arfer yn Ysbyty Llwynhelyg heddiw (Mercher 21 Mehefin). Os ydych yn mynychu ar gyfer apwyntiad claf allanol, efallai y bydd rhywfaint o oedi wrth barcio tra bod ymchwiliadau’n cael eu cynnal, ond disgwylir i hyn ddychwelyd i’r arfer maes o law.
"Sicrhewch eich bod yn defnyddio’r gwasanaeth gofal iechyd mwyaf priodol i’ch anghenion gan fod rhywfaint o bwysau ychwanegol ar ein gwasanaethau gofal brys ac argyfwng ar hyn o bryd.
"Gofynnwn i chi ond mynychu’r adran gofal brys ac argyfwng os ydych yn profi salwch sy’n peryglu bywyd neu anaf difrifol. Er mwyn sicrhau y gallwn drin cleifion yn briodol, rydym yn eich annog i ddewis eich gwasanaethau gofal iechyd yn ofalus iawn, fel ein bod ond yn gweld pobl sydd angen gofal brys neu argyfwng yn yr adran. Mae mwy o wybodaeth am wasanaethau amgen ar gael yma
Gofal mewn argyfwng a thu allan i oriau – Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru)