Neidio i'r prif gynnwy

Cysylltwch â ni erbyn dydd Gwener 16 Ebrill i gael eich brechlyn cyntaf (grwpiau 1 i 9)

Nyrs yn rhoi brechlyn cleifion oedrannus

Mae rhaglen brechu torfol y bwrdd iechyd ar y trywydd iawn i gynnig dos cyntaf brechlyn i bawb yng ngrwpiau blaenoriaeth 1 i 9 erbyn dydd Sul 18 Ebrill.

Os yw un neu fwy o'r canlynol yn berthnasol i chi ac nad ydych wedi cael eich apwyntiad brechlyn cyntaf, cysylltwch â'r bwrdd iechyd trwy glicio ar y ddolen hon yma, gan ffonio'r rhif hwn: 0300 303 8322 neu ar e-bost COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk erbyn dydd Gwener 16 Ebrill: 

  • rydych yn 50 oed neu hŷn
  • rydych yn 16 i 64 oed a gennych gyflwr iechyd sy’n bodloi eisoes sy’n eich rhoi mewn mwy o risg o farwolaeth o COVID-19
  • rydych yn gweithio mewn cartref gofal neu yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro
  • rydych yn brif ofalwr di-dâl am oedolyn hŷn neu anabl sydd mewn mwy o risg o farwolaeth o COVID-19, neu am blentyn sydd â niwro-anableddau difrifol

Peidiwch â chysylltu â'ch meddygfa na’r bwrdd iechyd ar yr adeg hon i ofyn am eich ail apwyntiad brechlyn. Cysylltir â chi pan fydd eich tro chi.