27 Ionawr 2022
Erbyn hyn mae nifer o fferyllfeydd ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn cynnig gwasanaeth haint y llwybr wrinol (UTI) ar gyfer menywod nad ydynt yn feichiog a sydd rhwng 16 a 64 oed.
Y bwrdd iechyd yw’r cyntaf yng Nghymru i gynnig y ddarpariaeth hon ac mae wedi’i gymeradwyo fel prosiect Enghreifftiol Bevan, a allai, os bydd yn llwyddiannus, arwain at gyflwyno’r gwasanaeth ledled Cymru.
Mae symptomau UTI yn cynnwys poen a llosgi wrth basio dŵr, angen mynd i’r toiled yn amlach (yn enwedig yn y nos) ac wrin cymylog.
Gall UTI, os na chaiff ei drin, arwain at yr haint yn gwaethygu ac, mewn rhai achosion, gorfod mynd i'r ysbyty.
Gall cleifion siarad â fferyllydd sydd wedi'i hyfforddi'n arbennig yn gyfrinachol mewn ystafell ymgynghori breifat.
Os bydd y fferyllydd yn dod i'r casgliad bod haint yn bresennol, gellir rhoi gwrthfiotigau i'r claf heb fod angen apwyntiad gyda meddyg teulu.
Bydd cleifion hefyd yn cael cyngor ar sut i leihau'r siawns o ddatblygu UTI arall yn y dyfodol.
Dywedodd y fferyllydd Simon Noot o Fferyllfa Noot, Hwlffordd: “Mae’r gwasanaeth UTI yn un o’r gwasanaethau newydd mwyaf gwerthfawr sydd wedi’u comisiynu o fewn fferylliaeth gymunedol.
“Mae'r gwasanaeth yn enghraifft o sut mae fferyllfeydd yn darparu gwerth mawr i'r gymuned ac yn cynnig mynediad hawdd at driniaeth broffesiynol ar gyfer yr hyn sy'n anhwylder cyffredin.”
Cysylltwch â'ch fferyllfa gymunedol leol cyn mynychu i wirio bod fferyllydd priodol ar gael.
I weld pa fferyllfeydd sy'n cymryd rhan yn y cynllun hwn ewch i: Haint y llwybr wrinol (UTI)