17 Mehefin 2022
Mae cynllun uchelgeisiol ar gyfer canolfan Iechyd a Lles newydd yn Cross Hands, Sir Gaerfyrddin, wedi cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynnig gwella rhwydwaith integredig o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer ardal Aman Gwendraeth, sy’n cynnwys adeiladu Canolfan Iechyd a Lles newydd.
Os caiff ei chymeradwyo, bydd y ganolfan yn darparu gwasanaethau iechyd a gofal er budd cymunedau lleol. Bydd y gwasanaethau clinigol craidd yn cynnwys dau bractis meddygon teulu lleol (Partneriaeth Feddygol Cross Hands a’r Tymbl a Phractis Meddygol Penygroes), ynghyd ag ystod o Wasanaethau Iechyd Cymunedol megis bydwreigiaeth, ymwelwyr iechyd, nyrsio cymunedol, gwasanaethau therapi, podiatreg, ac iechyd meddwl.
Bydd y rhain yn cael eu hategu gan wasanaethau atodol ychwanegol, megis Canolfan Blynyddoedd Cynnar Integredig, sef gwasanaeth yn y gymuned i deuluoedd â phlant 0-12 oed. Bydd hefyd gwasanaethau awdioleg, fferyllfa gymunedol, lle ar gyfer digwyddiadau cymunedol, llyfrgell, yn ogystal ag ardal lluniaeth.
Fel rhan o ymrwymiad y bwrdd iechyd i ddatgarboneiddio, a chyflawni carbon sero net erbyn 2030, mae dyluniad yr adeilad yn cynnwys amrywiaeth o dechnolegau carbon isel/di-garbon. Mae'r rhain yn cynnwys gosod paneli ffotofoltäig, pympiau gwres ffynhonnell aer, yn ogystal â darparu lle gwefru ar gyfer cerbydau trydan.
Dywedodd Rhian Matthews, Cyfarwyddwr System Integredig Sir Gaerfyrddin BIP Hywel Dda: “Mae’r cynllun cyffrous hwn yn dangos pwysigrwydd darparu gwasanaethau mor agos i’r cartref â phosibl.
“Mae’r Achos Busnes Amlinellol (OBC) hwn ar gyfer Canolfan Iechyd a Lles Cross Hands yn gynllun uchelgeisiol a fydd nid yn unig yn ased i Cross Hands, ond a fydd o fudd i Sir Gaerfyrddin gyfan.
“Dyma’r Achos Busnes Amlinellol cyntaf i gael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ers cyflwyno ein Hachos Busnes Rhaglen (PBC) yn gynharach eleni. Nod ein PBC yw sicrhau buddsoddiad na welwyd erioed o’r blaen yng ngorllewin Cymru, er mwyn cyflawni ein strategaeth iechyd a gofal hirdymor ‘Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach: Cenedlaethau’r Dyfodol yn Byw’n Dda’.”
Yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru, y broses gynllunio a’r cyfnod adeiladu, byddai’r ganolfan newydd yn cael ei hadeiladu gerllaw’r A48 a Pharc Busnes newydd Cross Hands. Bwriedir iddo agor yn hydref 2025.
Mae’r Achos Busnes Amlinellol llawn ar gyfer Canolfan Iechyd a Lles Cross Hands i’w weld yma.