Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddi yr Athro Philip Kloer yn Brif Weithredwr dros dro

13 Tachwedd 2023

Heddiw, dydd Llun, 13 Tachwedd, cyhoeddodd Judith Hardisty, Cadeirydd Dros Dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, fod yr Athro Philip Kloer wedi ei benodi'n Brif Weithredwr dros dro y Bwrdd Iechyd o fis Chwefror 2024.

Gwnaed y cyhoeddiad yn dilyn y datganiad a rannwyd yn gynharach heddiw NHS Devon appoints new Chief Executive Officer - One Devon (agor mewn dolen newydd)  fod Steve Moore, Prif Weithredwr presennol Hywel Dda, wedi'i benodi'n Brif Weithredwr Bwrdd Gofal Integredig GIG Dyfnaint, o’r 12 Chwefror 2024.

Dywedodd Judith Hardisty, Cadeirydd dros dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Ar ran pawb yn Hywel Dda, hoffwn longyfarch Steve ar ei benodiad yn Brif Weithredwr Bwrdd Gofal Integredig GIG Dyfnaint. Bu Steve yn arweinydd ardderchog yn Hywel Dda a bydd nifer helaeth ohonom yn ei golli'n fawr. Rydym yn dymuno'n dda iddo ym mhennod nesaf ei yrfa."

Ychwanegodd Steve Moore, Prif Weithredwr Hywel Dda: "Mae arwain Hywel Dda am bron i naw mlynedd wedi bod yn brofiad gwylaidd dros ben, ac yn un y byddaf yn fythol ddiolchgar amdano. Rwyf wedi gweithio ochr yn ochr ag unigolion nodedig – pobl ymroddedig sy'n rhoi y tu hwnt i’r disgwyl yn ddyddiol er mwyn darparu'r gofal gorau posibl ar gyfer aelodau o'n cymuned - diolch i chi i gyd am eich cefnogaeth ddiwyro dros y blynyddoedd. Rwy'n dymuno'r gorau i Phil a thîm Hywel Dda yn y dyfodol ac rwy'n edrych ymlaen at glywed am gynnydd Hywel Dda am flynyddoedd lawer i ddod."

Ymunodd yr Athro Kloer â Hywel Dda yn 2005 fel meddyg anadlol. Yn ystod ei gyfnod gyda'r Bwrdd Iechyd, bu’n cyflawni nifer o rolau arwain uwch, gan gynnwys Cyfarwyddwr Strategaeth Glinigol a Chyfarwyddwr Gweithredol dros dro Gwasanaethau Gofal Sylfaenol, Cymunedol ac Iechyd Meddwl, cyn ei rôl bresennol fel y Cyfarwyddwr Meddygol a'r Dirprwy Brif Weithredwr. Mae ganddo brofiad sylweddol o arwain rhaglenni datblygu a newid strategaeth system gyfan ar raddfa fawr ac arweiniodd y rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Clinigol yng ngorllewin Cymru, a strategaeth iechyd a gofal 20 mlynedd y Bwrdd Iechyd, sef, Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach.

Mae Ms Hardisty yn parhau: "Llongyfarchiadau hefyd i Phil wrth iddo gamu i'w rôl newydd fel Prif Weithredwr dros dro. Dros y blynyddoedd, mae Steve wedi buddsoddi mewn datblygu tîm Gweithredol ymroddedig a chryf, a fydd yn parhau i arwain ein Bwrdd Iechyd a sicrhau arweinyddiaeth gadarn tra bod ein sector yn wynebu pwysau cynyddol.

"Fel arweinydd profiadol ac aelod hirsefydlog o deulu Hywel Dda, rwy'n hyderus y bydd Phil, ynghyd â'r tîm Gweithredol a'r Bwrdd, yn parhau i arwain ein Bwrdd Iechyd gyda gofal ac addfwynder - sy'n arbennig o bwysig wrth i ni fynd drwy'r heriau sy'n wynebu'r GIG yng Nghymru."

Ychwanegodd yr Athro Kloer: "Mae'n fraint cael fy mhenodi yn Brif Weithredwr dros dro. Bu’n anrhydedd ac yn bleser cael cydweithio â Steve yn ystod y naw mlynedd diwethaf, ac rwy'n ddiolchgar iddo am ei arweinyddiaeth ymroddedig ac am wireddu ein gwerthoedd yn ddyddiol.

"Fel bwrdd iechyd, a sector, rydym yn wynebu sawl her, yn enwedig wrth i fisoedd y gaeaf agosáu; ond rwy'n hyderus, gyda chefnogaeth ac ymroddiad y 13,000 o weithwyr Hywel Dda, y byddwn yn ymateb i'r her ac yn gweithio gyda'n gilydd i wasanaethu ein cymunedau hyd eithaf ein gallu. Edrychaf ymlaen at ymgymryd â'r rôl newydd hon a pharhau i arwain ein sefydliad gyda charedigrwydd a sicrhau bod ein pobl a'n cymunedau yn parhau wrth wraidd popeth a wnawn."

Penodir yr Athro Kloer i'w rôl newydd dros dro am gyfnod o hyd at flwyddyn.