Mae’r wybodaeth wedi cael ei diweddaru. Ewch i Codi mwyafrif cyfyngiadau ymweld yn Ysbyty Llwynhelyg
Oherwydd cynnydd mewn achosion Covid-19 yn yr ysbyty a'r gymuned, gwnaed y penderfyniad i gau Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd i ymwelwyr ar unwaith.
Dim ond mewn amgylchiadau arbennig y caniateir ymweld, megis diwedd oes ac ymweliadau critigol. Rhaid i bob ymwelydd gynnal prawf dyfais llif ochrol (LFD) gartref cyn teithio i'r ysbyty.
Gellir cael citiau hunan-brawf llif ochrol trwy:
Wrth ymweld â'n hysbytai cofiwch wisgo gorchudd wyneb, bydd hwn yn cael ei amnewid am orchudd wyneb llawfeddygol yn y dderbynfa neu'r ward.
Cofiwch gynnal pellter cymdeithasol ac i olchi'ch dwylo mor aml â phosib gan ddefnyddio sebon a dŵr a glanweithydd dwylo.
Mae'r sefyllfa'n cael ei monitro'n rheolaidd a bydd diweddariad pellach yn cael ei wneud pan godir cyfyngiadau ymwelwyr.
Rydym yn diolch i bawb am eich dealltwriaeth ar yr adeg hon wrth i ni weithio i atal y feirws hwn rhag lledaenu.