Neidio i'r prif gynnwy

Cyfyngiadau lleol newydd ar gyfer ardal helaeth o Lanelli

Bydd trigolion rhan helaeth o Lanelli yn destun cyfyngiadau lleol newydd mewn 'ardal diogelu iechyd' yn dilyn cynnydd cyflym mewn achosion Covid-19 yn yr ardal.

Ceir lledaeniad dwys o achosion yn y dref o gymharu â rhannau eraill o Sir Gaerfyrddin – yn ystod y saith diwrnod diwethaf, mae 85 o achosion positif wedi cael eu clustnodi yn Llanelli (151.6 fesul 100,000 o'r boblogaeth) o gymharu â 24 o achosion yng ngweddill Sir Gaerfyrddin (18.1 fesul 100,000 o'r boblogaeth).*

Mae swyddogion Iechyd Cyhoeddus Cymru yn disgwyl i'r niferoedd barhau i godi dros yr wythnos nesaf.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i gytuno ar y cyfyngiadau dros dro ar lefel is-sirol er mwyn ceisio atal y feirws rhag lledaenu.

O 6pm ddydd Sadwrn Medi 26, 2020, ni fydd trigolion sy'n byw mewn rhannau diffiniedig o Lanelli yn gallu ymweld â chartref neb arall, na derbyn ymwelwyr i'w cartref, oni bai bod ganddynt 'esgus rhesymol' megis darparu gofal i rywun agored i niwed.

Ni ddylent drefnu cwrdd dan do ag unrhyw un sydd ddim yn byw gyda nhw, a bydd teithio i mewn ac allan o'r 'ardal diogelu iechyd' hefyd yn cael ei gyfyngu - ni ddylai pobl adael yr ardal na theithio i'r ardal oni bai bod hynny'n hanfodol. Nid yw teithio i mewn ac allan o'r ardal am wyliau yn cael ei ystyried yn esgus rhesymol.

Gofynnir i bobl wisgo gorchuddion wyneb yn unrhyw le lle na allant gadw pellter cymdeithasol o ddau fetr oddi wrth bobl eraill, gan gynnwys wrth gasglu plant o'r ysgol, yn ogystal â'r rheolau sydd eisoes yn golygu bod rhaid iddynt wisgo gorchudd wyneb mewn mannau dan do fel siopau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae'r holl ymweliadau â chartrefi gofal preswyl hefyd wedi'u hatal, dan do ac yn yr awyr agored.

Gall myfyrwyr ddal ati i deithio i mewn ac allan o'r 'ardal diogelu iechyd' i fynd i'r ysgol neu'r coleg.

Rhaid i bobl sy'n byw yn yr ardal ddiffiniedig o Llanelli weithio gartref, a rhaid i gyflogwyr gymryd pob cam rhesymol i helpu staff i wneud hynny.

Dim ond pobl sy'n byw yn yr ardal ddiffiniedig ddylai ddefnyddio mannau dan do cyhoeddus fel canolfannau hamdden.

Bydd siopau'n aros ar agor, ond dylai pobl sy'n byw y tu allan i'r ardal ddiffiniedig o Lanelli osgoi teithio iddynt, a siopa yn eu hardaloedd eu hunain lle bynnag y bo modd.

Y wardiau penodol sy'n rhan o'r ardal ddiffiniedig o Llanelli yw:

  • Bigyn
  • Y Bynea
  • Dafen
  • Elli
  • Felin-foel
  • Glanymôr
  • Yr Hendy
  • Hengoed
  • Llangennech
  • Lliedi
  • Llwynhendy
  • Tyisha
  • Dyffryn y Swistir

Gall pobl gael cadarnhad a ydynt yn byw yn un o'r ardaloedd lle mae'r cyfyngiadau hyn drwy fynd i www.sirgar.llyw.cymru/cyfyngiadaulleol a rhoi eu cod post.

Er bod patrwm yr achosion positif cynyddol i raddau helaeth iawn yn yr ardal o Lanelli lle mae'r cyfyngiadau wedi'u cryfhau, mae Sir Gaerfyrddin gyfan bellach wedi cael rhybudd y gallai'r cyfyngiadau llymach hyn gael eu hymestyn os bydd yr achosion yn parhau i ledaenu.

Mae pawb - gan gynnwys pobl yn yr ardaloedd diffiniedig o Lanelli – yn cael eu hannog i ddilyn y canllawiau cenedlaethol ynghylch cadw pellter cymdeithasol, hylendid da, hunanynysu, profi a gorchuddion wyneb.

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: "Mae gweld pa mor sydyn mae nifer yr achosion positif yn ardal Llanelli wedi codi yn peri pryder, ac mae camau wedi gorfod cael eu cymryd er mwyn helpu i atal y lledaeniad ac i dorri'r gadwyn o heintiau sydd wedi crynhoi yr ardal hon, fel y gallwn osgoi sefyllfa lle mae'n rhaid cyflwyno cyfyngiadau fel hyn ar draws y sir gyfan.

“Rhaid i bob un ohonom ni wneud y peth iawn, dilyn y cyngor a roddir, a diogelu ein gilydd. Mewn rhannau o Lanelli, rydym ni'n gofyn i bobl a busnesau wneud hyd yn oed mwy o aberth – rydym ni'n llwyr sylweddoli beth fydd effaith hyn, ond does dim ffordd arall. Rhaid i ni atal lledaeniad y feirws."

Mae uned brofi symudol wedi cael ei chreu yn Llanelli i reoli'r galw cynyddol gan drigolion lleol sydd ag unrhyw un o symptomau Covid-19 – naill ai tymheredd uchel, colli synnwyr blasu neu arogli neu hwnnw'n newid, neu beswch parhaus newydd.

Disgwylir i'r achosion positif sy'n cael eu riportio yn y dref godi yn ystod y pythefnos nesaf wrth i'r cynnydd mewn profion a dargedir ddigwydd. Fodd bynnag, mae hwn yn arwydd cadarnhaol bod achosion yn cael eu clustnodi a bod mesurau rheoli ar waith.

Dywedodd Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae ein cymuned leol wedi rhoi cefnogaeth aruthrol i ni yn ystod y misoedd diwethaf. I ddiogelu iechyd ein pobl, gan gynnwys y rhai mwyaf agored i niwed, ac i sicrhau bod adnoddau'r GIG ar gael er mwyn rhoi'r gofal sydd ei angen arnyn nhw i bobl, mae angen cymorth poblogaeth Llanelli a'r gymuned ehangach arnom ni nawr yn fwy nag erioed. Er nad yw derbyniadau i ysbytai wedi cynyddu eto ar gyfer achosion COVID, rydym ni wedi gweld cynnydd sydyn mewn achosion positif yn y gymuned, ac ymhen amser mae hyn yn debygol o gael effaith ar dderbyniadau i ysbytai. Y ffordd orau bosib y gallwn ni gefnogi ein gilydd a'n hanwyliaid yw drwy ddilyn y cyfyngiadau lleol, lleihau cyswllt ag eraill, arfer hylendid da, a hunanynysu a threfnu prawf os oes gennym unrhyw symptomau COVID-19.”

Mae capasiti cynyddol ar gyfer profi trigolion Llanelli ar gael drwy apwyntiad yn y lleoliadau canlynol:

  • Maes Parcio B Parc y Scarlets, y gellir ei gyrraedd drwy Barc Adwerthu Trostre yn Llanelli
  • Safle Tŷ'r Nant (wrth ymyl KFC), Trostre, Llanelli
  • Maes Sioe Caerfyrddin (arwyddion o'r ddau gyfeiriad oddi ar yr A40)

Ni ddylai fod rheswm gan drigolion Llanelli i deithio'n bell i gael prawf, gan y bydd profion ar gael yn Llanelli a Chaerfyrddin. Dylid trefnu profion drwy'r UK Portal. Os oes unrhyw drigolion yn Llanelli yn cael anhawster trefnu prawf yn lleol drwy'r UK Portal, gallant e-bostio covidenquiries.hdd@wales.nhs.uk neu ffonio 0300 333 2222.

Mae rhagor o wybodaeth am brofi yn Llanelli ar gael yma.

Nifer yr achosion o COVID-19 rhwng 16 a 22 Medi yn Sir Gaerfyrddin.

Achosion yn y 7 diwrnod diwethaf

Llanelli = 85

Gweddill Sir Gaerfyrddin = 24

Gyfanswm = 109

 

Cyfradd fesul 100,000 o'r boblogaeth

Llanelli = 151.6

Gweddill Sir Gaerfyrddin = 18.1

Gyfanswm = 57.7