Yn dilyn llwyddiant fan brechu symudol yn Cross Hands, bydd clinig brechu COVID-19 yn gweithredu mewn Doc Penfro o ddydd Iau 8fed i ddydd Sadwrn 10fed o Orffennaf.
Mewn partneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDd) a’r Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (agor mewn dolen newydd), bydd y fan frechu yn rhoi'r brechlyn i unrhyw un 18 oed a hŷn sydd angen naill ai dos cyntaf neu ail (Moderna a Rhydychen AstraZeneca). Gellir rhoi ail ddosau 8 wythnos ar ôl y dos cyntaf.
Bydd y clinig brechu symudol wedi'i leoli ym maes parcio Western Way (y tu ôl Asda, SA72 6DB) a bydd yn gweithredu dydd Iau i ddydd Sadwrn yma o 11.00am i 7.00pm. Nid oes angen cysylltu â’r bwrdd iechyd i archebu apwyntiad.
Bydd y gwasanaeth tân yn darparu un o'i gerbydau a bydd aelodau'r tîm hefyd yn bresennol i roi cyngor diogelwch cymunedol cyffredinol i'r cyhoedd, gan gynnwys am ddiogelwch yn y cartref. Bydd tîm Allgymorth Datblygu Cymunedol y bwrdd iechyd hefyd yn ymuno â nhw i estyn allan at bobl o leiafrifoedd ethnig sy'n byw yn Sir Benfro i'w helpu yn ystod pandemig COVID-19, cefnogi cydlyniant cymunedol, a chael gwared ar rwystrau rhag cyrchu gwasanaethau.
Dywedodd Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Chris Davies: “Mae ymateb ein cydweithwyr yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi bod yn eithriadol yn ystod y pandemig byd-eang hwn ac rwy’n falch y gallwn, unwaith eto, gynorthwyo Hywel Dda yn ei rhaglen frechu, ar ôl dod â phartneriaeth hynod lwyddiannus i ben yn ddiweddar lle roeddem yn gallu cynorthwyo gyda chludo pobl yn ein cymunedau i ac o ganolfannau Brechu Torfol.
“Mae ein perthynas gyda’r bobl rydyn ni’n eu gwasanaethu yn ein rhoi mewn sefyllfa unigryw. Ar ben hyn mae ein staff yn canolbwyntio ar y gymuned ac wedi'u hyfforddi i weithio gyda phobl o bob cefndir. Mae'r cyfuniad hwn wedi caniatáu inni ymateb yn gyflym i'r cais hwn am gymorth.
“Mae’r cyfle a’r bartneriaeth hon yn caniatáu inni ehangu ein cymorth ymhellach o fewn y byd iechyd, ac mae’n mynd i gael effaith gadarnhaol ar ein hymateb i’r pandemig byd-eang hwn ac rydym yn falch o allu chwarae ein rhan a chydweithio â’n partneriaid y GIG i newid bywydau llawer o bobl.”
Gyda'r cynnydd mewn achosion ledled y DU, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn annog cymaint o bobl â phosibl i ddod ymlaen am eu dos cyntaf a'r ail ddos.
Nid oes angen cysylltu â'r bwrdd iechyd i drefnu apwyntiad.
Cliciwch yma ar gyfer gwybodaeth bellach am gyflwyno'r rhaglen frechu (agor mewn dolen newydd).