Enw: Marian Haf
Cyfrwng artistig: Printio
Dewisoch chi redeg gweithdai gwneud printiau syanoteip gyda chleifion, y cyhoedd a staff i greu gwaith celf ar gyfer yr uned. Allwch chi ddisgrifio beth yw print syanoteip a pham wnaethoch chi ddewis y broses honno ar gyfer gweithdai gwneud printiau Canser Leri? Sut ydych chi wedi cynnwys y gwaith celf a wnaed gan gleifion, staff a'r cyhoedd yn y gwaith celf?
Mae syanoteip yn broses argraffu ffotograffig heb gamera sy'n cynhyrchu printiau glas. Mae halwynau haearn sy’n sensitif i olau yn cael eu paentio ar bapur sydd wedyn yn cael eu hamlygu gan olau UV, buom yn ffodus i gael tri diwrnod godidog o heulwen i amlygu ein delweddau a wnaethpwyd trwy ddefnyddio cymysgedd o botanegau a ddarganfuwyd o lannau’r Leri, gardd yr uned a thraeth gogleddol Aberystwyth ynghyd â ffilmiau tryloywder o ffotograffau a dynnwyd yn y lleoliadau hynny hefyd. Dewisais syanoteip oherwydd ei hygyrchedd, mae’n broses hyfryd sy’n rhoi canlyniadau rhyfeddol yn gymharol hawdd, ei chyflymder araf yn rhoi gweithdy hamddenol ac ystyriol i’r staff a’r cleifion.
O ble cawsoch chi eich ysbrydoliaeth ar gyfer y printiau ar gyfer yr uned? / Where did you get your inspiration from for the prints for the unit?
Daeth fy ysbrydoliaeth gan bawb a gymerodd ran, yn gwrando ar friff y tîm, yr unigolion ar y gweithdai a geiriau Eurig Salisbury. Rwy’n teimlo’n fawr iawn fel curadur yn hytrach nag artist yn gwneud y darnau hyn, yn syml iawn, trefnais gyfraniad pawb mewn myfyrdod tawel.
Sut ydych chi'n gobeithio y bydd eich gwaith celf yn cael effaith ar gleifion, staff ac ymwelwyr yn uned Ganser Leri?
Yr hyn rwy’n gobeithio fwyaf yw bod y gwaith yn atseinio gyda’r gwyliwr ac yn gallu eu cynnal mewn sgwrs dawel.