26 Mawrth 2026
Cynhelir ‘Gwasanaeth Cofio Babanod a Garwyd a Gollwyd’ blynyddol Hywel Dda ddydd Sadwrn 25 Ebrill 2025 yng Nghaerfyrddin.
Mae’r gwasanaeth, sy’n cael ei drefnu gan staff y bwrdd iechyd a’i arwain gan yr Adran Gofal Ysbrydol (Caplaniaeth), wedi bod yn gysur i rieni a theuluoedd ers tro ac yn rhoi cyfle i bobl fyfyrio ac i ddod at ei gilydd i dalu parch.
Cynhelir y gwasanaeth yng Nghapel Bethel, Hill House, Teras Picton, Caerfyrddin SA31 3BT am hanner dydd, ddydd Sadwrn 25 Ebrill. Mae Capel Bethel y tu ôl i swyddfeydd Llywodraeth Cymru a Chanolfan y Fyddin ar Deras Picton gyda digon o le parcio ar gael.
Dywedodd Euryl Howells, Uwch Gaplan ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn gwybod y gall taith galar fod yn araf ac yn boenus, a gall y profiad o golled fod yn eang - o gamesgoriad cynnar i farwolaeth babi neu blentyn.
“Mae ein gwasanaeth coffa ar gyfer unrhyw un sydd wedi profi colled, ni waeth pryd y digwyddodd na ble roeddech chi'n byw ar y pryd.
“Rydym yn cynnig lle i fyfyrio’n dawel, yn ogystal â’r cyfle i ddod ynghyd ag eraill sydd wedi profi colled debyg. Gall cael eich amgylchynu gan gefnogaeth a chariad roi cysur ar adeg anodd.”
Bydd gwasanaeth eleni yn cynnwys dyfyniadau gan Winnie the Pooh, cerddi a cherddoriaeth fyfyriol gan gynnwys côr staff. Gwahoddir rhieni i ddod â llun neu eitem gydag enw eu plentyn neu arteffact fel blanced neu degan i’w roi ar y bwrdd coffa yn ystod y gwasanaeth.
Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth a charedigrwydd Gwenidog Tim ac aelodau o Eglwys Bethel a fydd yn darparu lluniaeth.
Os nad ydych yn gallu mynychu’r gwasanaeth ac yn dymuno coffáu eich anwylyn, medrwch ddanfon neges ebost ar Loved.Forever.HDD@wales.nhs.uk erbyn dydd Mercher 22 Ebrill 2026
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch ag Euryl Howells dros y ffôn neu e-bostiwch 01267 227563 neu Euryl.Howells2@wales.nhs.uk