Neidio i'r prif gynnwy

Cofio Babanod a Garwyd ac a Gollwyd y Nadolig hwn

17 Rhagfyr 2021

Mae Gwasanaethau Babanod a Garwyd ac a Gollwyd blynyddol wedi bod yn gysur i rieni a theuluoedd ers dros 20 mlynedd, gan roi cyfle i bobl fyfyrio a dod at ei gilydd i ddangos parch, cynnau cannwyll ac ysgrifennu neges ac i adlewyrchu mewn man diogel.

Yn anffodus bu’n rhaid i ni wneud y penderfyniad i beidio â dal y gwasanaethau o ysbytai Glangwili a Llwynhelyg oherwydd y pandemig parhaus.

Bydd Euryl Howells, Uwch Gaplan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynnau cannwyll am 8.00pm ddydd Iau 23 Rhagfyr a gwahoddir rhieni a theuluoedd i gael eiliad o fyfyrio i gyd-fynd â'r amser hwn. Bydd cannwyll hefyd yn cael ei chynnau ar gyfer ein babanod arbennig, eu rhieni a'u teuluoedd gan y Tîm Caplaniaeth ar Ddydd Nadolig.

Mae cyfle hefyd i chi anfon neges ar gyfer y Goeden Goffa a'r Llyfr (rhoddir negeseuon yn y llyfrau Coffa ar y ddau safle yn y Flwyddyn Newydd). Gellir anfon negeseuon tan 3 Ionawr, 2022.

Dywedodd Euryl: “Mae’n bwysig er gwaethaf cyfyngiadau’r pandemig hwn bod teuluoedd sy’n galaru yn cael sicrwydd nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain ac mae’n ddrwg gennym nad ydym yn gallu cynnig dewis arall ar-lein.

“Ein gobaith yw trefnu rhywbeth yng ngwanwyn 2022 a byddwn yn cyhoeddi manylion yn nes at yr amser.

“Os yw cofio colli eich babi wedi cynhyrchu emosiynau sy'n anodd, ystyriwch siarad â theulu a ffrindiau, neu defnyddiwch y rhif ffôn isod i gael unrhyw gymorth ychwanegol.

“Ar ran y Tîm Caplaniaeth, hoffwn estyn ein diolch a'n dymuniadau da i Julie Jenkins, Pennaeth Bydwreigiaeth, sy'n ymddeol ym mis Ionawr. Rydym yn cyfleu gwerthfawrogiad am ei gwaith i wasanaethau menywod a phlant ac yn arbennig ei chefnogaeth i'r gwasanaeth hwn ers iddo ddechrau."

Os hoffech anfon neges ar gyfer y goeden a'r llyfrau cof, e-bostiwch: Loved.Forever.HDD@wales.nhs.uk

Cysylltwch ag Euryl Howells, Uwch Gaplan 01267 227563 euryl.howells2@wales.nhs.uk os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon.