Neidio i'r prif gynnwy

Codi mwyafrif cyfyngiadau ymweld yn Ysbyty Llwynhelyg

Rydym yn falch o gadarnhau y bydd ymweliadau ag Ysbyty Llwynhelyg yn ailgychwyn yfory, dydd Mercher 13 Hydref, fodd bynnag, bydd ymweld â wardiau 10 a 12 yn parhau i fod yn gyfyngedig ar yr adeg hon.

Mae canlyniadau sgrinio cleifion yn rhagweithiol ar gyfer COVID-19 ar draws Ysbyty Llwynhelyg wedi ein galluogi i ddiweddaru ein cyfyngiadau ymweld.

Dim ond mewn amgylchiadau arbennig y caniateir ymweld â ward 10 a 12, megis diwedd oes ac ymweliadau critigol. Cysylltwyd yn uniongyrchol â perthynas agosaf cleifion ar y wardiau hyn.

Er mwyn sicrhau diogelwch staff a chleifion yr ysbyty, rydym yn parhau i annog unrhyw un sy'n ymweld ag unrhyw un o'n hysbytai ar gyfer apwyntiad neu i weld rhywun annwyl, i gynnal prawf dyfais llif ochrol (LFD) gartref cyn teithio i'r ysbyty.

Gellir cael citiau hunan-brawf llif ochrol trwy:

Wrth ymweld â'n hysbytai, gwisgwch orchudd wyneb. Bydd gorchudd wyneb llawfeddygol yn cael ei ddarparu yn ei le yn y dderbynfa neu'r ward. Cadwch bellter cymdeithasol a golchwch eich dwylo mor aml â phosib gan ddefnyddio sebon a dŵr a glanweithydd dwylo.

Rydym yn diolch i bawb am eich dealltwriaeth ar yr adeg hon wrth i ni weithio i atal y feirws hwn rhag lledaenu.