Neidio i'r prif gynnwy

Codi cyfyngiadau ymweld yn Ysbyty Tywysog Philip

19 Ionawr 2026

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi codi'r rhan fwyaf o'r cyfyngiadau ymweld a gyflwynwyd yn Ysbyty Tywysog Philip yr wythnos diwethaf mewn ymateb i achosion o norofeirws.

Fodd bynnag, mae Ward 9 yn parhau i fod ar gau gyda chyfyngiadau ymweld yn dal i fod ar waith. Gofynnir i ymwelwyr gysylltu â rheolwr y ward neu switsfwrdd yr ysbyty am arweiniad pellach.

Gofynnir i bawb sy'n ymweld â safleoedd Hywel Dda beidio ag ymweld ag anwyliaid os oes ganddynt symptomau ffliw, salwch neu ddolur rhydd a gwisgo masgiau wrth fynychu pob safle clinigol.

Dywedodd Sharon Daniel, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad Cleifion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:

"Fe wnaethon ni benderfynu cyfyngu ar ymweliadau i Ysbyty Tywysog Philip yr wythnos diwethaf er mwyn cadw cleifion a staff yn ddiogel ac i atal lledaeniad norofeirws.

“Rydym wedi bod yn monitro’r sefyllfa’n ofalus bob dydd ac wedi penderfynu ei bod yn ddiogel ail-agor yr ysbyty i ymwelwyr. Hoffwn ddiolch i bobl am beidio ag ymweld â’u hanwyliaid yn ystod y cau wardiau ac am fod yn amyneddgar wrth i ni weithio i sicrhau diogelwch ein cleifion a’n staff. Diolch hefyd i bawb am ymweld ag anwyliaid yn yr ysbyty dim ond os nad oes gennych symptomau salwch, ac am ein cefnogi i gyd drwy wisgo masg tra ar ein safle.”

DIWEDD