Neidio i'r prif gynnwy

Clinigau cerdded i mewn brechlyn COVID dos cyntaf ac ail ar gael bellach ym mhob canolfan brechu torfol Hywel Dda

Er mwyn helpu holl drigolion Hywel Dda i gael mynediad hawdd a hyblyg i frechlyn COVID-19, gan ddechrau o ddydd Llun 28 Mehefin, bydd clinigau brechlyn cerdded i mewn dos cyntaf ac ail yn rhedeg ym mhob canolfan brechu torfol Hywel Dda ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Galwch i mewn i unrhyw un o'r canolfannau canlynol i dderbyn eich dos brechlyn cyntaf. Mae hyn ar gael i unrhyw un sy'n 18 oed neu'n hŷn neu'ch ail ddos brechlyn os yw'n ddyledus:   

Aberystwyth (Llyfrgell Thomas Parry, SY23 3AS) 

  • Ar agor 7 diwrnod yr wythnos o ddydd Llun 28 Mehefin ymlaen, 10.00am - 8.00pm   

Aberteifi (Canolfan Hamdden Aberteifi SA43 1HG) 

  • Ar agor 7 diwrnod yr wythnos o dydd Gwener 2 Gorffennaf ymlaen, 10.00am - 8.00pm 

Cerdded i Mewn Caerfyrddin (Canolfan Gynhadledda Halliwell, UWTSD, SA31 3EP) 

  • Ar agor 7 diwrnod yr wythnos o dydd Iau 1 Gorffennaf ymlaen, 10.00am - 8.00pm 

Gyrru trwodd Cerfyrddin (Maes y Sioe, SA33 5DR) 

Ar agor 7 diwrnod yr wythnos o dydd Llun 28 Mehefin ymlaen, 10.00am - 7.00pm 

Hwlffordd (Archifau Sir Benfro, SA61 2PE)  

  • Ar agor 7 diwrnod yr wythnos o dydd Llun o dydd Llun 28 Mehefin ymlaen, 10.00am - 8.00pm 

Llanelli (Theatr Ffwrnes  SA15 3YE) 

  • Ar agor 7 diwrnod yr wythnos o dydd Llun o dydd Llun 28 Mehefin ymlaen, 10.00am - 8.00pm 

Dinbych-y-Pysgod (Canolfan Hamdden Dinbych-y-Pysgod, SA70 8EJ) 

  • Ar agor dydd Gwener – dydd Sul, 10.00am - 8.00pm 

 
Nid oes angen cysylltu â'r bwrdd iechyd i drefnu apwyntiad ond os ydych yn dymuno trefnu apwyntiad gallwch wneud hynny o hyd trwy gysylltu â'n tîm archebu ar 0300 303 8322 neu drwy e-bostio COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk

Os ydych eisoes wedi cofrestru gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein, mae croeso i chi fynychu'r clinig cerdded i mewn ac os oes gennych apwyntiad wedi'i drefnu, cadwch amser eich apwyntiad.

Noder, er bod ymdrech fawr yn cael ei gwneud i sicrhau bod cyflenwad da o'r holl frechlynnau ar gael ym mhob canolfan, os nad yw'r brechlyn sydd ei angen arnoch ar gael, bydd ein staff yn archebu’r sesiwn nesaf sydd ar gael.

Os ydych am gael sicrwydd bod y brechlyn priodol ar gael, cysylltwch â Chanolfan Reoli Hywel Dda cyn teithio i ganolfan.

Rhif ffôn: 0300 303 8322
E-bost: COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk

Dywedodd Alison Evans, Nyrs Glinigol Arweiniol ar gyfer canolfannau brechu torfol Hywel Dda: “Yn dilyn cadarnhad yr wythnos diwethaf gan y Prif Weinidog fod Cymru ar ddechrau trydedd ton, roeddem yn gwybod bod angen i ni ei gwneud mor hawdd â phosibl i bobl gael brechlyn.

“Rwy’n hynod falch o’n holl dimau brechu ar draws ein canolfannau sy’n gweithio’n anhygoel o galed i sicrhau ein bod yn gallu darparu’r brechlyn sydd ei angen ar bobl, pan fydd ei angen arnynt.

“Os nad ydych wedi cael eich brechlyn cyntaf, nid yw byth yn rhy hwyr; galwch heibio i'ch canolfan leol a byddwn yn trefnu hyn ar eich cyfer. Mae gennym gynlluniau ar waith i sicrhau y gallwn frechu mwyafrif y bobl yno, ond os na allwn am unrhyw reswm, byddwn yn trefnu brechlyn i chi cyn gynted â phosibl.

“Bydd ein staff hefyd yn fwy na pharod i siarad ag unrhyw un sy’n ansicr a ydyn nhw am gael y brechlyn ac a allai fod â chwestiynau maen nhw eisiau atebion iddyn nhw cyn cael eu brechu. Mae gennym dimau cyfeillgar, arbenigol ar draws ein holl ganolfannau felly os gwelwch yn dda, os oes gennych unrhyw amheuon ynghylch cael y brechlyn, galwch heibio i'n gweld am sgwrs. Byddwn yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych fel y gallwch wneud y penderfyniad iawn i chi.”