Neidio i'r prif gynnwy

Clinigau brechu galw heibio i barhau i'r Flwyddyn Newydd

31 Rhagfyr 2021

Gall Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDd) gadarnhau bod pob oedolyn cymwys bellach wedi cael cynnig brechiad atgyfnerthu. Gwnaed cynigion i unrhyw un sy'n gymwys trwy ystod o ddulliau gan gynnwys llythyr, neges testun ac opsiynau galw heibio.

Dywedodd Bethan Lewis, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro Iechyd Cyhoeddus: “Ni fydd neb yn cael ei adael ar ôl a gall unrhyw un sydd am dderbyn y cynnig atgyfnerthu, neu'r dos cyntaf a'r ail, wneud hynny o hyd.

“Os ydych yn gymwys i gael dos atgyfnerthu ac mae wedi bod yn dri mis ers eich ail ddos neu os oes angen eich dos cyntaf neu ail ddos arnoch chi, ewch i glinig galw heibio cyn gynted â phosibl.

“Os na allwch ddod i glinig galw heibio, trefnwch apwyntiad trwy gysylltu â’r bwrdd iechyd yn uniongyrchol ar 0300 303 8322 neu COVIDEnquiries.hdd@wales.nhs.uk i drefnu apwyntiad.

“Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb am weithio mor ddiflino yn ystod yr wythnosau diwethaf i gyflawni'r garreg filltir hon, gan gynnwys pawb sy'n ymwneud â'n canolfannau brechu torfol, cydweithwyr mewn gofal sylfaenol ac yn y gymuned, staff ein canolfan orchymyn a phawb y tu ôl i'r llenni.”

Gweler amseroedd agor cerdded i mewn ar gyfer canolfannau brechu torfol o 2 Ionawr 2022:

Aberystwyth – Llyfrgell Thomas Parry, Campws Llanbadarn, Prifysgol Aberystwyth, SY23 3AS

  • Ar gau Ionawr 1af
  • Ar agor o 10am - 8pm Dydd Sul 2il i Dydd Sul 9 Ionawr

Caerfyrddin (cerdded i mewn) - Y Gamfa Wen, Prifysgol y Drindod Dewi Sant, SA31 3EP

  • Ar gau Ionawr 1af
  • Ar agor o 10am - 8pm, Dydd Sul 2il i Dydd Sul 9 Ionawr

Caerfyrddin (gyrru trwodd – dros 16 yn unig) – Maes Sioe’r Siroedd Unedig, SA33 5DR

  • Ar gau 31 Rhagfyr a 1 Ionawr
  • Ar agor o 10am – 8pm Dydd Sul 2 Ionawr
  • Ar agor o 11am - 8pm, Dydd Llun 3 i Dydd Sul 9 Ionawr

Hwlffordd- Archifdai Sir Benfro, Prendergast, SA61 2PE

  • Ar gau Ionawr 1af
  • Ar agor o 10am - 8pm Dydd Sul 2il i Dydd Sul 9 Ionawr

Llanelli - Uned 2a, Stad Ddiwydiannol Dafen, Heol Cropin, SA14 8QW

  • Ar gau Ionawr 1af
  • Ar agor o 10am - 8pm Dydd Sul 2il i Dydd Sul 9 Ionawr

Dinbych y Pysgod – Canolfan Hamdden Dinbych y Pysgod, Marsh Road, SA70 8EJ

  • Ar gau Ionawr 1, 2, 3 ac 6
  • Ar agor o 9am - 5pm Dydd Mawrth 4 ac Dydd Mercher 5 Ionawr
  • Ar agor o 10am - 8pm Dydd Gwener 7 i Dydd Sul 9 Ionawr
  • Ar agor 10am - 7pm Dydd Llun 10 Ionawr

Cwm Cou – Ysgol Trewen, Cwm-Cou, SA38 9PE

  • Ar gau Ionawr 1
  • Ar agor gydag argaeledd cyfyngedig ar gyfer galw heibio rhwng 10am a 8pm Dydd Sul 2il i Dydd Sul 9 Ionawr

Mae cleifion sy'n gaeth i'r tŷ yn parhau i gael eu cefnogi gan feddygfeydd teulu lleol, lle mae eu staff yn caniatáu, tra mewn ardaloedd eraill bydd ein tîm brechu cymunedol yn trefnu ymweld a chynnig brechu. Os ydych eisoes wedi cysylltu â'r bwrdd iechyd gyda'ch manylion, nid oes angen i chi gysylltu â ni eto a byddwn mewn cysylltiad yn fuan iawn.

Rhannwch y wybodaeth hon gyda ffrindiau a theulu, yn enwedig y rhai heb fynediad rheolaidd i'r rhyngrwyd neu bapur newydd. Gellir dod o hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen frechu Hywel Dda COVID-19 trwy ymweld â https://biphdd.gig.cymru/brechlyn-COVID19/