Neidio i'r prif gynnwy

Clinigau brechu COVID penodedig iechyd meddwl a llesiant

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu sesiynau penodedig yn ei ganolfannau brechu torfol er mwy rhoi cymorth ychwanegol i bobl a allai ei chael yn anodd mynychu oherwydd iechyd meddwl, gorbryder, pryder neu ofn.

Bydd yr amseroedd gwarchodedig hyn yn y clinig yn darparu lle tawel i’r brechwyr sy’n nyrsys iechyd meddwl profiadol i gefnogi pobl a rhoi sicrwydd er mwyn iddynt gael eu brechiad.

Bydd y clinigau hyn yn stocio'r brechlyn Moderna sef y brechlyn a argymhellir ar gyfer y rhai ar feddyginiaethau iechyd meddwl. Dyma’r brechlyn a argymhellir hefyd ar gyfer y rhai sy'n derbyn triniaeth am gamddefnyddio sylweddau.

Meddai Alison Evans, Nyrs Arweiniol Glinigol Canolfannau Brechu Torfol Hywel Dda: “Rydym am i'r clinigau hyn fod mor hyblyg a chroesawgar â phosib. Mae'r system hon wedi bod yn gweithio'n hynod effeithiol gyda brechwyr sy’n nyrsys anabledd dysgu gan ddarparu cynllun gofal pwrpasol ac ymyriadau arbenigol ar gyfer unigolion.

“Trwy gydnabod bod pobl yn unigolion ac angen ymyriadau unigol, rydym yn cyrraedd llawer o grwpiau sydd mewn braw a phryder wrth feddwl am y canolfannau brechu torfol a chael pigiad.

“Rydym yn mynd ati i annog yr holl wasanaethau iechyd meddwl cymunedol a’r hybiau cymorth trydydd sector ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro i rannu'r wybodaeth hon a chysylltu â'u canolfan brechu torfol leol i drefnu apwyntiadau â chymorth i'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd mynychu. Neu, i'r rhai sydd eisiau mwy o wybodaeth, gallant alw i mewn i un o'n sesiynau heb fod angen cysylltu â neb yn gyntaf."

Cynhelir y sesiynau penodedig pob dydd Mawrth rhwng 2pm a 6pm yn y canolfannau canlynol:

  • Aberystwyth (Llyfrgell Thomas Parry, SY23 3AS)
  • Caerfyrddin – cerdded-mewn (Y Gamfa Wen, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin, SA31 3EP) 
  • Hwlffordd (Archifdy Sir Benfro, SA61 2PE)  
  • Llanelli (Uned 2a, Dafen Ystâd Ddiwydiannol, Heol Cropin, SA14 8QW) 

Am wybodaeth bellach ar raglen brechu torfol Hywel Dda, ewch i https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwybodaeth-covid-19/rhaglen-frechu-covid-19/