Neidio i'r prif gynnwy

Cleifion Meddygfa Neyland a Johnson yn cael eu hannog i ddweud eu dweud

Bocs glas gyda geiriau datganiad i

01 Awst 2022

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn annog cleifion i ddweud eu dweud yn dilyn dwyn cytundeb Gwasanaeth Meddygol Cyffredinol Meddygfa Neyland a Johnson i ben.

Daw'r cytundeb i ben yn dilyn ymddeoliad arfaethedig partner meddyg teulu a sawl ymgais aflwyddiannus gan y Practis i recriwtio mwy o feddygon teulu i weithio yn y Practis.


Dylai cleifion barhau i fod wedi'u cofrestru yn y Practis a dylent barhau i ddefnyddio gwasanaethau fel apwyntiadau a phresgripsiynau fel arfer. Bydd gofal yn parhau i gael ei ddarparu gan yr un tîm o fewn y Practis ar hyn o bryd tan ddiwedd mis Hydref.

Mae’r Practis, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a’r Cyngor Iechyd Cymuned yn gweithio gyda’i gilydd i ymgysylltu â chleifion i weld sut yr hoffent i wasanaethau meddygon teulu gael eu darparu o fis Tachwedd. Mae'r cyfnod ymgysylltu yn dechrau heddiw, dydd Llun 1 Awst, yn rhedeg tan ddydd Llun 29 Awst. Bydd pob claf yn cael ei ysgrifennu at i esbonio’r gwahanol ffyrdd y gallant roi adborth, gan gynnwys: 

Fel arall, gallwch adrodd eich barn yn ôl i'r Cyngor Iechyd Cymuned yn https://hywelddacic.gig.cymru/cymryd-rhan/gwasanaethau-meddyg-teulu-neyland-a-johnston/

Bydd yr holl adborth yn cael ei goladu a bydd yn rhan bwysig o’r ystyriaeth a’r penderfyniadau a wneir gan y Bwrdd Iechyd ynghylch sut y caiff gwasanaethau eu darparu o fis Tachwedd ymlaen.

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym wedi ymrwymo i wrando ar boblogaethau lleol ac ymgysylltu â nhw ynghylch newidiadau posibl i wasanaethau ym Meddygfa Neyland a Johnson a hoffem wahodd cleifion i gymryd rhan yn y broses ymgysylltu.

“Rydym wedi ymrwymo i weithio’n agos gyda’r Practis a’r Cyngor Iechyd Cymuned drwy gydol y broses hon a byddwn yn hysbysu cleifion am ganlyniadau’r ymarfer ymgysylltu hwn.”

Atgoffir cleifion bod gwasanaethau hefyd ar gael trwy fferyllfeydd cymunedol lleol sy'n cynnig ystod o wasanaethau arbenigol. Darganfyddwch fwy yma: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/fferyllfa/