22 Mai 2025
Bydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda, yn ei gyfarfod nesaf ar 29 Mai, yn ceisio cymeradwyo lansiad ymgynghoriad cyhoeddus ar ei Gynllun Gwasanaethau Clinigol.
Os caiff ei gymeradwyo, bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei lansio ar yr un diwrnod a bydd yn ceisio barn ar opsiynau i ddarparu gofal ar draws naw gwasanaeth clinigol yn Hywel Dda.
Bydd staff, cleifion, partneriaid, a’r boblogaeth ehangach yn cael cyfle i rannu eu barn drwy lenwi holiadur neu fynychu digwyddiadau cyhoeddus, yn bersonol, neu ar-lein, yn ystod yr ymgynghoriad a fydd yn rhedeg tan 31 Awst 2025.
Mae gwybodaeth am ddatblygiad y Cynllun Gwasanaethau Clinigol ar gael ar ein tudalen we:
https://biphdd.gig.cymru/cynllun-gwasanaethau-clinigol (agor mewn dolen newydd)
Bydd tudalennau’n cael eu diweddaru gyda mwy o adnoddau ymgynghori penodol, gan gynnwys dogfennau a manylion digwyddiadau, ar 29 Mai.
Mae’r Cynllun Gwasanaethau Clinigol yn canolbwyntio ar naw gwasanaeth gofal iechyd sy’n fregus ac sydd angen eu newid. Y gwasanaethau sydd wedi’u cynnwys yw gofal critigol, llawfeddygaeth gyffredinol frys, strôc, endosgopi, radioleg, dermatoleg, offthalmoleg, orthopedeg, ac wroleg.
Cafodd y naw gwasanaeth clinigol eu dewis oherwydd y risgiau iddynt allu parhau i gynnig gwasanaethau diogel o ansawdd uchel, neu ofal mewn modd amserol.
Nod rhaglen y Cynllun Gwasanaethau Clinigol yw mynd i’r afael â'r gwendidau hyn, darparu gofal diogel a chynaliadwy i’n cymunedau, gwella safonau, a lleihau amseroedd aros ar gyfer pobl sydd angen diagnosis a thriniaeth.
Er bod opsiynau’n cael eu cyflwyno yn yr ymgynghoriad, nid oes unrhyw atebion a ffefrir ar hyn o bryd. Mae’r ymgynghoriad arfaethedig yn rhan hanfodol o ymrwymiad y Bwrdd Iechyd i sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed wrth lunio dyfodol gofal iechyd yn y rhanbarth.
Bydd yr ymgynghoriad yn gofyn i bobl ddweud wrthym:
Dywedodd y Cyfarwyddwr Meddygol Dros Dro Mr Mark Henwood: “Rydym am glywed eich barn ar ba opsiynau sy’n mynd i’r afael â’r heriau orau, gwella safonau, a lleihau amseroedd aros. Rydym hefyd yn awyddus i ddeall unrhyw bryderon, effeithiau, neu syniadau amgen a allai fod gennych – gan gynnwys eich barn ar rôl ein prif ysbytai yn y dyfodol.”
“Wrth i ni ystyried opsiynau a fydd yn siapio dyfodol naw maes gwasanaeth clinigol, rwy’n annog pawb i fanteisio ar y cyfle hwn i rannu eu barn, i’n helpu i ddarparu’r gwasanaethau a all ddiwallu eich anghenion orau.”
Bydd canlyniad yr ymgynghoriad yn cael ei ystyried gan y Bwrdd Iechyd ym mis Tachwedd 2025, oni bai bod angen amser ychwanegol i ddadansoddi adborth oherwydd lefel uchel o ymatebion. Gallai hyn olygu ei fod yn cael ei ystyried mewn cyfarfod Bwrdd diweddarach.
I ddysgu mwy am y Cynllun Gwasanaethau Clinigol a sut i gymryd rhan, ewch i dudalen we’r Cynllun Gwasanaethau Clinigol yn https://biphdd.gig.cymru/cynllun-gwasanaethau-clinigol (agor men dolen newydd)
Os hoffech chi gael y wybodaeth ddiweddaraf neu gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, gallwch hefyd ymuno â’n cynllun ymgysylltu, Siarad Iechyd / Talking Health yn https://www.dweudeichdweud.biphdd.cymru.nhs.uk (agor mewn dolen newydd)