Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogaeth i roi'r gorau i ysmygu yn y Flwyddyn Newydd

Broken cigarette on hand

Hoffai Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda annog pobl sy’n ystyried rhoi’r gorau i ysmygu yn y Flwyddyn Newydd i gysylltu â’r Bwrdd cyn y Nadolig.

Gall Tîm Ysmygu a Lles y Bwrdd Iechyd ddarparu cymorth wedi’i strwythuro, a’ch helpu i baratoi i roi’r gorau iddi a dal ati wedyn er mwyn mwynhau dyfodol di-fwg. Mae’r gwasanaethau i gyd yn rhad ac am ddim a byddant yn sicrhau eich bod yn cael y cyfle gorau i roi’r gorau am byth i ysmygu.

Ysmygu yw prif achos afiechyd y gellir ei osgoi yng Nghymru, ac amcangyfrifir ei fod yn lladd dros 5,000 o bobl bob blwyddyn. Bydd rhoi’r gorau i ysmygu yn gam tuag at fywyd mwy iach i chi a’r sawl sydd o’ch cwmpas.

Meddai Cath Einon o Dîm Ysmygu a Lles Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’r manteision i iechyd a ddaw o roi’r gorau i ysmygu yn digwydd yn syth, oherwydd mae lefelau carbon monocsid rhywun sy’n ysmygu yn gallu haneru cyn pen cyn lleied ag 8 awr.

“Ar ôl 24 awr o roi’r gorau i ysmygu, bydd carbon monocsid wedi diflannu o’r corff a bydd yr ysgyfaint yn dechrau clirio mwcws ac olion ysmygu. Cyn pen dim ond blwyddyn ar ôl rhoi’r gorau i ysmygu, bydd y risg o gael trawiad ar y galon wedi haneru o gymharu â’r risg sy’n berthnasol i rywun sy’n ysmygu.

“At hynny, ar ôl deng mlynedd, mae’r risg o ddatblygu canser yr ysgyfaint yn gostwng i tua hanner y risg sy’n berthnasol i rywun sy’n ysmygu.”

Os ydych yn ystyried rhoi’r gorau i ysmygu yn y Flwyddyn Newydd ac os ydych yn byw yn Sir Gâr, Ceredigion neu Sir Benfro, cysylltwch â Thîm Ysmygu a Lles Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda cyn y Nadolig er mwyn cael cyngor a chymorth am ddim, drwy ffonio 0300 303 9652, anfon ebost i: smokers.clinic@wales.nhs.uk neu lenwi ffurflen atgyfeirio ar-lein.