Dyma hysbysu trigolion Llanymddyfri a’r cylch y bydd Uned Mân Anafiadau y dref yn cau dros dro er mwyn er mwyn caniatáu i Feddygon Teulu a staff clinigol reoli cleifion yn y modd mwyaf priodol i ddiwallu eu hanghenion.
Bydd y gwasanaeth, sy’n cael ei redeg gyda chymorth Meddygon Teulu lleol, yn cau o heddiw (dydd Iau 19 Mawrth) a gofynnir i unrhyw un sydd angen gofal mân anafiadau yn lleol, os y nachos brys, i fynd i Ysbyty Cyffredinol Glangwili a hynny ar yr amod nad oes ganddynt symptomau COVID-19.
Meddai Rhian Dawson, Cyfarwyddwr Sirol Sir Gâr: “O ganlyniad i achosion Coronafeirws yn Hywel Dda rydym wedi gwneud penderfyniad ar y cyd â’n Meddygon Teulu partner i gau’r Uned Mân Anafiadau yn Llanymddyfri, a fydd y nein galluogi i ryddhau staff meddygol i gyflawni dyletswyddau eraill. Rwyf am dawelu meddwl cymunedau lleol mai mesur dros dro yw’r penderfyniad hwn â’r nod o ail agor yr uned cyn gynted ag y gallwn.”
Meddai Dr John Rees, o Feddygfa Llanfair: “Mae’r Meddygon Teulu partner yn llwyr gefnogi’r penderfyniad hwngan Hywel Dda er budd cynllunio clinigol a diogelwch. Gofynnwn i gleifion ffonio’r Feddygfa yn hytrach na mynychu mewn person, fel y gallwn sicrhau eu bod yn cael eu brysbennu mewn modd priodol ac yn cael y gofal gorau posib.”