Neidio i'r prif gynnwy

Canu neu arwyddo Yma o Hyd

Dafydd Iwan

2 Awst 2022

Gallwch ddewis canu neu arwyddo’r anthem eiconig Yma o Hyd, gyda’r dyn ei hun, Dafydd Iwan ar faes yr Eisteddfod yn Nhregaron.

Bydd y cerddor a’r ymgyrchydd yn ymuno â therapyddion iaith a lleferydd o Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ar eu stondin am 2pm ddydd Mercher 3 Awst 2022.

Y syniad yw dathlu ein hunaniaeth Gymreig a’n hiaith trwy gân ac iaith arwyddion.

Dywedodd Mererid Jones, Therapydd Iaith a Lleferydd Clinigol Arweiniol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Fe wnaethon ni ofyn am ganiatâd Dafydd Iwan i arwyddo a chwarae Yma o Hyd ac fe’n syfrdanwyd yn llwyr pan ddywedodd y byddai’n dod i’w chanu gyda ni”

“Bydd yn hyfryd cael ymuno â’n gilydd mewn canu ac iaith arwyddion mewn digwyddiad sy’n argoeli i fod yn wirioneddol gynhwysol ac arbennig yn yr Eisteddfod eleni.”

Defnyddir system arwyddo sy'n cwmpasu siapiau dwylo, mynegiant wyneb, ystumiau ac iaith y corff. Mae'n helpu i gyfathrebu'n effeithiol gyda phlant ac oedolion ag anawsterau iaith. Mae'r system hon yn seiliedig ar BSL ond dim ond i arwyddo geiriau ac ymadroddion allweddol y caiff ei defnyddio.

Bydd therapyddion iaith a lleferydd ynghyd â’u cydweithwyr therapi yn brysur ar stondin y Bwrdd Iechyd yn yr Eisteddfod drwy’r wythnos. Bob dydd am 11am mae sesiynau babanod ‘Babis Parablus’. Yna am 12pm a 3pm mae sesiynau stori amlsynhwyraidd.

Mae’r tîm Therapïau Iaith a Lleferydd hefyd wedi partneru â’r Eisteddfod i ddarparu byrddau cyfathrebu– adnodd gweledol defnyddiol i wneud y digwyddiad yn fwy cyfeillgar a chynhwysol o ran cyfathrebu.

Os ydych yn byw yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac eisiau gwybod mwy am therapi iaith a lleferydd, ewch i

Therapi iaith a lleferydd - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru) (agor yn dolen newydd)