24 Mawrth 2022
Caeodd y Ganolfan Brechu Torfol (MVC) gyrru drwodd a’r uned brofi gymunedol ar Faes y Sioe yng Nghaerfyrddin yn barhaol ddydd Mercher 23 Mawrth 2022.
Canolfan brechu Maes y Sioe oedd y seithfed ganolfan frechu i gael ei hagor gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) i gynyddu nifer yr apwyntiadau sydd ar gael a sicrhau bod pawb dros 50 oed yn cael brechlyn COVID-19 cyntaf cyn penwythnos y Pasg 2021. Mae wedi darparu 74,128 o frechlynnau COVID-19 ers agor ym mis Mawrth 2021.
Gall pobl barhau i gael eu brechiad COVID-19 yng Nghaerfyrddin yng nghanolfan frechu torfol Y Gamfa Wen (agor mewn dolen newydd) (a leolir ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, SA31 3EP).
Bydd profion PCR cyhoeddus, os oes gennych symptomau COVID-19, yn parhau i fod yn bosib eu harchebu trwy borth ar-lein y Llywodraeth (agor mewn dolen newydd) tan 1 Ebrill pan ddaw’r gwasanaeth hwnnw i ben yn y DU. Ni fydd Maes Sioe Caerfyrddin bellach yn opsiwn ar gyfer profi ond bydd pobl yn gallu dewis safleoedd eraill yn Llanelli, Ceredigion a Sir Benfro. Ni ddarperir profion COVID-19 yn Y Gamfa Wen.
Dywedodd Gemma Brown, Arweinydd Canolfan Brechu Torfol Sir Gaerfyrddin: “Yn ogystal â’r llu o staff a gwirfoddolwyr BIP Hywel Dda sydd wedi gweithio yn y ganolfan a’i gefnogi dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r bwrdd iechyd yn dymuno diolch i staff o Sodexo (agor mewn dolen newydd) a Guardwatch (agor mewn dolen newydd) sydd wedi wedi bod yn rhan annatod o redeg y ganolfan o ddydd i ddydd.
“Mae hefyd yn bwysig iawn ein bod yn diolch ac yn cydnabod haelioni busnes lleol 3A’s Leisure (agor mewn dolen newydd), oherwydd heb eu cefnogaeth ni fyddai wedi bod yn bosibl darparu’r tri brechlyn ar Faes y Sioe.
“Efallai na fydd pobl yn sylweddoli, oherwydd yr amgylchedd lled-awyr agored ar Faes y Sioe, nad oedd y brechlyn Pfizer BioNtech ar gael yn y ganolfan hon i ddechrau.
“Pan gadarnhawyd bod rhaglen atgyfnerthu’r hydref yn defnyddio’r brechlyn Pfizer, roedd angen ateb arnom i ddarparu ardal glinigol ddiogel i baratoi’r brechlyn Pfizer a sicrhau bod Maes y Sioe yn rhan o’r rhaglen atgyfnerthu.
“Diolch i haelioni Lynn Evans a’r tîm yn 3A’s Leisure, rhoddwyd carafán i’r ganolfan gan alluogi’r ganolfan i fod yn rhan o’r gwaith o ddarparu’r brechlyn atgyfnerthu achub bywyd i’n haelodau hŷn a mwy bregus o’r boblogaeth ar adeg dyngedfennol.”