Neidio i'r prif gynnwy

Canolfan brechu torfol Aberteifi i symud i gyn-ysgol yng Nghwm Cou

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cadarnhau y bydd canolfan brechu torfol Aberteif yn symud i leoliad newydd ddydd Llun 26 o Orffennaf.

Bydd tîm brechu’r bwrdd iechyd yn symud i hen Ysgol Trewen, yng Nghwm Cou, Ceredigion SA39 9PE er mwyn caniatáu i waith adeiladu ddigwydd yn Ysgol Uwchradd Aberteifi.

Canolfan Aberteifi oedd yr ail ganolfan brechu torfol a agorwyd gan BIP Hywel Dda er mwyn galluogi dosbarthu’r breichlyn COVID-19 yn Rhagfyr 2020.

Dywedodd Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus BIP Hywel Dda, “ Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i bawb oedd ynghlwm â’r barteriaeth hon gyda Chyngor Sir Ceredigion sydd wedi ein galluogi i ddosbarthu dros 35,000 o frechlynnau o Ganolfan Hamdden Teifi hyd yn hyn.

“Aberteifi oedd y ganolfan brechu torfol gyntaf a agorwyd gan y bwrdd iechyd y tu allan i ysbyty fis Rhagfyr diwethaf ac mae’r ymateb wych gan bartneriaid a gwirfoddolwyr wedi ein galluogi i ddosbarthu brechlynnau mor effeithiol. Mae pobl wir wedi mynd y tu hwnt  i bob diswyl i helpu a chefnogi’r ganolfan ac mae’n teimlo fel diwedd cyfnod wrth i ni symud i hen Ysgol Trewen yng Nghwm Cou.

“Os mai Aberteifi oedd eich canolfan brechu torfol leol, byddwch yn cael gwahoddiad i gael eich ail ddos yn  hen Ysgol Trewen os yw’n amser i chi gael eich ail ddos .

“Rydym yn deall y bydd yn bellach i rai pobl deithio, ond mae’n hollbwysig, gyda’r cynnydd diweddar mewn achosion, fod pobl yn cael eu hail ddos o’r brechlyn pan fyddent yn cael gwahoddiad.

“Os bydd rhywun wirioneddol ddim yn gallu mynychu’r apwyntiad hwnnw yn ein lleoliad newydd, mae gan y Bwrdd Iechyd system gludiant mewn lle, gellir trefnu hyn gan ein Canolfan Reoli trwy ffonio 0300 303 8322 neu drwy ebostio covidenquiries.hdd@wales.nhs.uk.”

Dywedodd Eifion Evans, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion “Rydym yn falch iawn ein bod yn gallu parhau i gefnogi BIP Hywel Dda wrth ddosbarthu’r brechlyn. Bydd ail-leoli’r ganolfan frechu i hen Ysgol Trewen yn sicrhau bod canolfan frechu gennym i drigolion de’r sir.”

“Mae dosbarthu’r brechlyn wedi bod  yn llwyddiannus yng Ngheredigion ac mae’n holl bwysig ein bod ni i gyd yn derbyn cynnig i gael y brechlyn COVID-19 a sicrhau ein bod wedi cael dau ddos er mwyn i ni barhau i warchod  ein anwyliaid a’n cymunedau.”