Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau newydd statudol Gwrando ar Bobl

1 Ebrill 2026

O heddiw (1 Ebrill 2026) ymlaen, bydd GIG Cymru yn gweithredu newidiadau i'r ffordd yr ymchwilir i bryderon ledled Cymru.  

Un o'r newidiadau allweddol sy'n cael eu cyflwyno yw'r canllawiau statudol newydd Gwrando ar Bobl, sy'n disodli'r canllawiau Gweithio i Wella presennol.  

Mae'r newidiadau hyn wedi'u cynllunio i'w gwneud hi'n haws ac yn gyflymach i gleifion, teuluoedd a gofalwyr godi pryderon a/neu rannu eu profiad am ofal y GIG. 

Mae'r dull newydd hwn yn rhan o ymrwymiad cenedlaethol i wella agwedd agored, tosturi a dysgu ar draws gwasanaethau iechyd yng Nghymru, a chyflwyno prosesau cliriach a gwell cymorth i unrhyw un sy'n dymuno siarad am eu gofal. 

Beth fydd yn newid? 

Mae'r canllawiau Gwrando ar Bobl newydd yn cryfhau ein hymrwymiad i fod yn agored, yn dosturiol ac i ymateb yn amserol. Mae'r newidiadau allweddol yn cynnwys: 

  • Cynnig gorfodol o sesiwn gwrando gweithredol 
    Bellach, bydd angen cynnig sgwrs wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu ar fideo ar ôl nodi pob pryder, sy’n sicrhau bod pobl yn teimlo eu bod yn cael eu clywed cyn gynted â phosibl. 
  • Cam datrys cynnar newydd 
    Bydd cyfnod pwrpasol o 10 diwrnod gwaith yn galluogi datrysiad cyflym a thosturiol lle bo'n briodol. 
  • Mwy o dryloywder a bod yn fwy agored 
    Rhwymedigaethau cryfach o ran ymddiheuro ar unwaith, tryloywder a chyfathrebu clir pan fydd niwed yn digwydd. 
  • Amserlenni a safonau cyfathrebu clir  
    Rhaid nodi pryderon o fewn pum niwrnod gwaith, a rhaid i lythyrau canlyniad ddefnyddio iaith glir a bod yn hygyrch. 
  • Trothwy iawndal ariannol uwch 
    Bydd yr uchafswm iawndal a fydd ar gael heb ymyrraeth gan lys yn codi o £25,000 i £50,000. 

Mae gan bawb yr hawl i godi pryder am ofal y GIG, a chynigir cymorth o'r cychwyn cyntaf. Mae hyn yn cynnwys: 

  • Mynediad at eiriolaeth (gan gynnwys trwy Llais , corff llais y dinesydd statudol ac annibynnol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru) 
  • Cymorth cyfathrebu ac addasiadau rhesymol 
  • Cymorth i bobl ag anghenion iaith, anableddau neu sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol 

Gellir codi pryderon gydag unrhyw aelod o staff, yn ysgrifenedig neu ar lafar. 

Dywedodd Sue Tranka, Prif Swyddog Nyrsio Cymru: “Rwy’n falch o gyflwyno Gwrando ar Bobl, dull cenedlaethol newydd Cymru o ymdrin â phryderon, cwynion, digwyddiadau ac iawndal y GIG. Mae'r canllawiau wedi'u llunio gydag un pwrpas mewn golwg: sef sicrhau bod pob unigolyn sy'n codi pryder am ei ofal yn cael ei drin ag urddas, tegwch, tosturi a pharch. Mae hyn yn rhoi ar waith yr egwyddor bod pob llais yn bwysig.  

“Ledled Cymru, mae cleifion, teuluoedd a gofalwyr wedi dweud wrthym y gall codi pryder fod yn frawychus. Dim ond ar adegau o ofid, ansicrwydd neu golled y mae llawer o bobl yn dod ymlaen. Mae eraill yn poeni na fyddan nhw’n cael eu cymryd o ddifrif, neu y gallai codi eu llais effeithio ar eu gofal yn y dyfodol.  

“Hoffwn eich sicrhau bod codi pryder yn un o’r hawliau sydd gennych chi, ond mae hefyd yn rhan hanfodol o sut rydym yn gwneud ein GIG yn fwy diogel, yn decach ac yn well i bawb. Ni fyddwch chi’n cael eich trin yn wahanol am godi’ch llais. Yn hytrach, bydd eich llais yn ein helpu ni i wella'r gofal rydym yn ei ddarparu.” 

Pam mae'r newidiadau hyn yn bwysig 

Mae'r rheoliadau newydd hyn yn cryfhau’r ffordd y mae GIG Cymru yn dysgu o bryderon ac yn defnyddio adborth cleifion i wneud gwelliannau. Bydd gofyn i sefydliadau’r GIG ddangos sut maen nhw’n gweithredu ar y gwersi hynny i wneud gwasanaethau’n fwy diogel ac yn fwy ymatebol. 

Dywedodd Sharon Daniel, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad Cleifion: Rwy'n falch iawn bod canllawiau statudol 'Gwrando ar Bobl' bellach yn orfodol ledled Cymru. Mae'n gam hanfodol i sicrhau bod pawb sy'n defnyddio ein gwasanaethau yn teimlo eu bod yn cael eu clywed, eu parchu, ac yn gallu siarad yn agored am eu profiadau.

Rydym wedi ymrwymo i ymateb gyda thosturi, dysgu o'r hyn y mae pobl yn ei ddweud wrthym, a gwneud gwelliannau ystyrlon i'r gofal a ddarparwn. Rydym yn ddiolchgar i bawb sy'n rhannu eu stori, gan ein helpu i dyfu a darparu gofal sy'n adlewyrchu'r hyn sy'n wirioneddol bwysig.

Mae rhagor o wybodaeth am y rheoliadau Gwrando ar Bobl, gan gynnwys canllawiau ar sut i godi pryder, ar gael yma: Gwasanaethau cymorth i gleifion (adborth a chwynion) - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Gwasanaeth Cymorth Rhestr Aros

Os ydych chi'n glaf ar restr aros am driniaeth, neu'n adnabod rhywun sydd angen cefnogaeth tra bydd yn aros, gall y Gwasanaeth Cymorth Rhestr Aros helpu: Gwasanaeth Cymorth Rhestr Aros (WLSS) - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Mae'r tîm yn cynnig un pwynt cyswllt i roi cefnogaeth a chyngor ar reoli eich iechyd, gan eich cyfeirio at wasanaethau priodol. 

DIWEDD