Beth yw'r Gwasanaeth Cymorth Rhestr Aros (WLSS)?
Gallwn helpu cleifion sydd ar restr aros am driniaeth mewn sawl ffordd:
- Gallwn adolygu eich sefyllfa tra byddwch ar y rhestr aros, i weld a oes unrhyw gymorth ychwanegol a allai helpu i wella ansawdd eich bywyd a’ch annibyniaeth.
- Gallwn helpu gydag atgyfeiriadau i wasanaethau eraill y Bwrdd Iechyd fel Ffisiotherapi, Therapi Galwedigaethol, Rhaglen Cleifion Arbenigol, Nyrsys Arbenigol a Rhoi’r Gorau i Ysmygu.
- Gallwn helpu gydag atgyfeiriadau i wasanaethau cymunedol fel Gofal a Thrwsio, Llesiant Delta neu Dewis Cymru
- Gallwn eich cefnogi i gymryd rheolaeth dros eich cyflwr tra byddwch yn aros am driniaeth.
- Gallwn roi sicrwydd a chyngor ar yr hyn y gallwch ei wneud os bydd eich symptomau'n gwaethygu.
Gallwch gysylltu â’r WLSS mewn amrywiaeth o ffyrdd, mae ein swyddfa ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm (ac eithrio gwyliau banc):
Rhiif ffon: 0300 303 8322 a dewiswch opsiwn 3
Ebost: ask.hdd@wales.nhs.uk
Llwybrau cleifion