02 Hydref 2025
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn annog unigolion cymwys ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, a Sir Benfro i amddiffyn eu hunain ac eraill drwy gael eu brechlyn ffliw yr hydref hwn.
Y gaeaf diwethaf, derbyniwyd dros 300 o bobl i’r ysbyty ar ôl ymweld â’n hadrannau achosion brys gyda ffliw fel eu prif ddiagnosis. Yn frawychus, roedd 10% o'r derbyniadau hynny yn blant dan bump oed. Ledled Cymru cofnodwyd 4,349 o dderbyniadau ffliw i'r ysbyty, roedd 4% o'r rhain i Unedau Gofal Dwys (ICU).
Gyda’r GIG eisoes dan bwysau sylweddol, mae atal pobl rhag gorfod mynd i’r ysbyty oherwydd y ffliw yn gam hanfodol i gadw ein gwasanaethau i redeg yn esmwyth y gaeaf hwn.
Mae ffliw yn salwch anadlol heintus iawn a achosir gan firysau ffliw. Mae'n lledaenu'n hawdd trwy beswch a thisian a gall arwain at gymhlethdodau difrifol fel broncitis a niwmonia, yn enwedig i blant ifanc, oedolion hŷn, a'r rhai â chyflyrau iechyd sylfaenol.
Dywedodd Dr Ardiana Gjini, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:
“Nid annwyd drwg yn unig yw ffliw; gall fod yn salwch difrifol sy’n arwain at fynd i’r ysbyty a hyd yn oed farwolaeth. Mae cael eich brechu yn ffordd ddiogel ac effeithiol o amddiffyn eich hun a’ch anwyliaid, boed hynny’n sicrhau eich bod yn gallu parhau i weithio, gofalu am eich teulu, neu’n aros yn iach dros y gaeaf.”
Mae’r brechlyn ffliw wedi cael ei ddefnyddio’n ddiogel ers degawdau, gyda bron i filiwn o bobl yng Nghymru yn ei gael bob blwyddyn. Ni all roi ffliw i chi, yn lle hynny, mae'n hyfforddi'ch system imiwnedd i ymladd y firws.
Cynigir y brechlyn am ddim i’r rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:
Bydd plant yn cael cynnig brechlyn chwistrell trwynol yn yr ysgol, ac anogir rhieni i roi caniatâd i sicrhau bod eu plentyn yn cael ei amddiffyn.
Bydd unigolion cymwys yn cael eu gwahodd gan eu meddyg teulu neu gallant gael mynediad at y brechlyn trwy fferyllfeydd cymunedol sy'n cymryd rhan. I gael rhagor o wybodaeth am bwy sy'n gymwys a sut i gael eu brechu, ewch i Brechu ffliw tymhorol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (agor mewn dolen newydd).
Rydym yn annog yn gryf bawb sy’n gymwys i fynychu apwyntiad gyda’u meddyg teulu neu gydsynio i frechiad eu plentyn yn yr ysgol. Gyda’n gilydd, gallwn leihau effaith y ffliw a helpu i gadw ein cymunedau’n ddiogel y gaeaf hwn.