Neidio i'r prif gynnwy

Cadarnhau ail ymgysylltiad cyhoeddus i drafod dyfodol gwasanaethau meddygon teulu yn Cross Hands a'r Tymbl

15 Tachwedd 2023

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn cynnal ail ddigwyddiad ymgysylltu â’r cyhoedd i roi cyfle i bobl drafod eu barn ar ddyfodol hirdymor gwasanaethau Meddygon Teulu i gleifion Meddygfa Cross Hands a’r Tymbl gyda’r bwrdd iechyd.

Mae hyn yn dilyn ildio eu Contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol gan Bartneriaid Meddygfa Cross Hands a’r Tymbl yn Sir Gaerfyrddin, a ddaeth i rym ddiwedd mis Mawrth 2024.

Yn dilyn y digwyddiad galw heibio yn Neuadd y Tymbl ar 8 Tachwedd, cynhelir ail ddigwyddiad galw heibio ymgysylltu â’r cyhoedd rhwng 3pm a 6pm ddydd Mawrth 21 Tachwedd 2023 yng Nghlwb Gweithwyr Cross Hands, 41 Heol Llandeilo, Cross Hands, Sir Gaerfyrddin, SA14 6RD (ger Lidl).

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’r Partneriaid wedi ceisio’n aflwyddiannus i recriwtio Meddyg Teulu neu Uwch Ymarferydd ychwanegol i ymuno â’u practis prysur, ond nid ydynt wedi gallu gwneud hynny.

“Yn anffodus, maen nhw wedi penderfynu mai ildio eu cytundeb GMS yw yr unig opsiwn sydd ar ôl.

“Ers cyhoeddi’r penderfyniad hwnnw, mae fy nhîm wedi bod yn gweithio gyda’r Practis, aelodau o Glwstwr Meddygon Teulu Aman a Gwendraeth, Llais a rhanddeiliaid allweddol eraill, i adnabod opsiynau ar gyfer dyfodol gwasanaethau Meddygon Teulu ar gyfer y 7,500 o gleifion cofrestredig.

“Mae panel gyda chynrychiolaeth o Llais a’r Pwyllgor Meddygol Lleol wedi nodi dau opsiwn ymarferol i barhau i ddarparu Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol i’r Gymuned leol ac rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu’r opsiynau hyn. Naill ai bydd y Contract yn cael ei ail-dendro i ddod o hyd i Ddarparwr arall, neu bydd y rhestr cleifion yn cael ei hailddosbarthu ymhlith practisau meddygon teulu cyfagos gan y Bwrdd Iechyd.

“Cyn y gellir gwneud unrhyw benderfyniad terfynol, mae angen i’r Bwrdd Iechyd wrando ar farn a phryderon cleifion. Bydd y broses hon yn dechrau ar 30 Hydref ac yn cau ar 26 Tachwedd 2023 ac rydym yn awyddus i glywed gan gynifer o gleifion â phosibl.”

Gall aelodau’r cyhoedd ddweud eu dweud drwy:

  • Mynychu’r digwyddiad galw heibio ddydd Mawrth 21 Tachwedd 2023, rhwng 3 a 6pm (galw heibio unrhyw bryd) yng Nghlwb Gweithwyr Cross Hands, 41 Heol Llandeilo, Cross Hands, Sir Gaerfyrddin, SA14 6RD (ger Lidl).
  • Cwblhau holiadur: mae blychau casglu ar gyfer holiaduron ar gael ym Meddygfa Cross Hands a'r Tymbl. Gall cleifion hefyd eu dychwelyd trwy bostio i FREEPOST HYWEL DDA UNIVERSITY HEALTH BOARD
  • Ffonio 0300 303 8322 a dewis opsiwn 5 ar gyfer ‘gwasanaethau eraill’.
  • E-bostio ask.hdd@wales.nhs.uk
  • Ymateb i'r holiadur ar-lein a gynhaliwyd ar wefan Dweud eich Dweud/Have your Say Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda www.dweudeichdweud.biphdd.cymru.nhs.uk
  • Darparu adborth yn uniongyrchol i Llais yn Swît 5, Llawr 1af, Tŷ Myrddin, Heol Hen Orsaf, Caerfyrddin SA31 1LP, ffoniwch 01646 697610 neu e-bostiwch westwalesenquiries@llaiscymru.org

Mae Llais, sefydliad llais y claf Cymru yn cefnogi’r broses ymgysylltu a bydd yn bresennol yn y digwyddiad cyhoeddus, ochr yn ochr ag aelodau o dîm Gofal Sylfaenol Hywel Dda ac aelodau o Glwstwr Meddygon Teulu Aman a Gwendraeth.