20 Ionawr 2023
Gall pobl sy’n pryderu am symptomau canser yr ysgyfaint nawr ddefnyddio Llinell Asesu Symptomau Canser yr Ysgyfaint (LUMEN) ym Mws Arloesi Anadlol Cymru (RIW) a fydd yn ymweld â threfi ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro ym mis Ionawr a Chwefror.
Mae LUMEN yn wasanaeth llinell ffôn a ariennir gan Moondance Cancer Initiative, sy’n darparu pwynt mynediad i bobl siarad â nyrs arbenigol i drafod eu symptomau a chael eu hatgyfeirio i gael Pelydr-X o’r frest, os oes angen, i ymchwilio i’w symptomau.
Mae’r gwasanaeth yn agored i bobl sydd wedi cofrestru gyda meddygfa yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i fynd i’r afael â’u pryderon am symptomau posibl Canser yr Ysgyfaint a dysgu mwy am y Gwasanaeth LUMEN a sut y gall helpu.
Yng Nghymru, mae dros 2,300 o gleifion yn cael diagnosis o ganser yr ysgyfaint bob blwyddyn, ond mae llai nag 20 y cant o’r rhain yn cael diagnosis yn gynnar. Dangoswyd bod diagnosis cynnar yn cynyddu'r siawns o oroesi.
Lansiwyd y gwasanaeth ar 15 Awst 2022, fel cynllun peilot yn ardal Sir Gaerfyrddin. Yn dilyn adborth ac effaith gadarnhaol gan gleifion, estynnwyd y gwasanaeth ar draws pob sir ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ym mis Rhagfyr 2022.
Mae LUMEN ar gael i unrhyw un sydd wedi cofrestru gyda Meddyg Teulu yn ardal BIP Hywel Dda, sy’n 40 oed neu’n hŷn, ac sydd ag unrhyw un o’r symptomau hyn:
• Peswch (mwy na 3 wythnos)
• Colli pwysau heb geisio
• Prinder anadl
• Llais cryg
• Heintiau mynych ar y frest
• Poen yn y frest
• Yn fwy blinedig nag arfer
• Colli archwaeth
• Cyflwr ar yr ysgyfaint gyda symptomau yn newid
Bydd y Bws RIW yn mynychu’r lleoliadau canlynol ar draws ein siroedd:
Wrth esbonio nodau’r prosiect, dywedodd Patricia Rees, Nyrs Brysbennu Canser yr Ysgyfaint ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae LUMEN yn rhoi mynediad uniongyrchol i bobl sy’n profi problemau anadlol at nyrs arbenigol sy’n gallu trafod eu symptomau, ac os yw’n briodol, eu cyfeirio am ymchwiliad pellach.
“Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod cyfradd goroesi canser yr ysgyfaint yn cael ei gwella trwy ganfod yn gynnar.”
Dywedodd Dr Savita Shanbhag, Arweinydd Canser Meddygon Teulu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn credu bod galluogi unigolion i ffonio llinell ffôn LUMEN yn ein helpu i ganfod symptomau’n gynnar ac atgyfeirio cleifion ymlaen i gael diagnosis cynnar. Rydym yn ddiolchgar i Moondance Cancer Initiative am ariannu’r prosiect arloesol hwn.”
Os ydych chi, aelod o'r teulu, neu ffrind yn 40 oed neu'n hŷn a bod gennych unrhyw un o'r symptomau uchod, gallwch gael mynediad at LUMEN drwy ffonio 0300 3036142 neu ymweld â Bws RIW. Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am - 2pm.
I gael rhagor o wybodaeth am Fenter Canser Moondance ewch i'w tudalen we https://moondance-cancer.wales (agor yn dolen newydd)