Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd yn trafod Meddygfa Solfach ar 23 Chwefror

20/02/23

Bydd dyfodol Meddygfa Solfach yn cael ei drafod gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda mewn cyfarfod arbennig ddydd Iau 23 Chwefror 2023.

Yn dilyn penderfyniad y Meddyg Teulu i ildio ei gytundeb Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol gyda’r Bwrdd Iechyd, cynhaliwyd ymarfer ymgysylltu i gasglu barn cleifion a rhanddeiliaid lleol ar ddyfodol gwasanaethau i gleifion.

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor, o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn deall y bydd pobl leol yn awyddus i wybod beth fydd dyfodol eu gwasanaethau meddyg teulu, a byddwn yn ysgrifennu at bob claf i roi gwybod iddynt am y canlyniad unwaith y bydd penderfyniad yn cael ei wneud ddydd Iau.

“Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r Feddygfa ac rydym wedi clywed pryderon y gymuned, rhanddeiliaid lleol a Meddygfeydd cyfagos. Mae angen inni ystyried y dystiolaeth o’r gwaith sydd wedi’i wneud yn ystod yr wythnosau diwethaf cyn gwneud unrhyw benderfyniad ynghylch sut y gellir darparu gwasanaethau’n gynaliadwy yn y dyfodol.

“Mae’n adlewyrchiad o faint mae cleifion yn gwerthfawrogi’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan y tîm yn y Feddygfa y mae cymaint o bobl wedi mynd i’r drafferth i adrodd eu barn i ni. Mae’r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i wrando ar boblogaethau lleol ac ymgysylltu â nhw a hoffem ddiolch i gleifion a rhanddeiliaid am eu rhan yn y broses hyd yn hyn.”

Mae ildio’r gytundeb yn dilyn ymddeoliad arfaethedig unig Feddyg Teulu’r Feddygfa a sawl ymgais aflwyddiannus gan y Feddygfa i recriwtio Meddyg Teulu partner arall i barhau â’r gwaith.

Mae'r ymgysylltu â chleifion a rhanddeiliaid wedi cynnwys digwyddiad galw heibio a gynhaliwyd yn Solfach fis diwethaf, a fynychwyd gan nifer fawr o bobl. Roedd hwn yn gyfle i bobl drafod eu pryderon yn bersonol gyda staff y Bwrdd Iechyd. Yn ogystal, roedd pob claf yn gallu rhannu ei farn drwy holiadur electronig neu holiadur post a ddenodd dros 1,200 o ymatebion.

Dywedodd Mansell Bennett, Cadeirydd y Cyngor Iechyd Cymunedol, y corff statudol llais y claf: “Mae ychydig o bethau yn pryderu’r gymuned a cholli meddygfa deulu sydd wedi hen ennill ei phlwyf.

“Yn ddealladwy mae llawer o bobl yn Solfach a’r ardaloedd cyfagos yn bryderus iawn.

“Rydyn ni wedi gwrando’n astud ar yr hyn maen nhw wedi’i ddweud yn ystod y cyfnod ymgysylltu ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gynllun tymor hwy ar gyfer y gwasanaethau meddygon teulu sydd eu hangen ar bobl yr ardal”

I weld papurau’r Bwrdd a gwylio’r cyfarfod ar y diwrnod, ewch i: https://biphdd.gig.cymru/amdanom-ni/eich-bwrdd-iechyd/cyfarfodydd-y-bwrdd-2023/agenda-a-phapuraur-bwrdd-23-chwefror-2023/

Bydd datganiad pellach yn dilyn penderfyniad ffurfiol y Bwrdd ddydd Iau.