Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd yn penderfynu ar y model gofal i'r dyfodol ar gyfer y Cynllun Gwasanaethau Clinigol

19 Chwefror 2026

Yn ei gyfarfod heddiw (19 Chwefror 2026), penderfynodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar y camau nesaf ar gyfer ei Gynllun Gwasanaethau Clinigol.

Mae'r Cynllun Gwasanaethau Clinigol yn canolbwyntio ar naw gwasanaeth gofal iechyd sydd fwyaf angen cymorth, a’r nod yw mynd i'r afael â gwendidau, gwella safonau, neu leihau amseroedd aros i bobl sydd angen diagnosis a thriniaeth. Y gwasanaethau sydd wedi'u cynnwys yw gofal critigol, dermatoleg, llawfeddygaeth gyffredinol frys, endosgopi, offthalmoleg, orthopedeg, strôc, radioleg ac wroleg.

Yn ystod haf 2025, ymgynghorodd y Bwrdd Iechyd â'i gymunedau ar opsiynau ar gyfer newid ar draws y naw gwasanaeth, a gwahoddwyd pobl i rannu eu barn a'u hawgrymiadau ar gyfer syniadau amgen ar sut y gellid darparu'r gwasanaethau ar draws y rhanbarth.

O ganlyniad i'r ymgynghoriad, paratowyd adroddiad annibynnol gan Opinion Research Services (ORS). Mae adroddiad hwn yn crynhoi mwy na 4,000 o ymatebion holiadur yn ogystal â'r adborth a gafwyd mewn digwyddiadau cyhoeddus, cyfarfodydd staff a sesiynau rhanddeiliaid a fynychwyd gan dros 4,000 o bobl.

Yn ei gyfarfod eithriadol a gynhaliwyd dros ddeuddydd, bu i’r Bwrdd ystyried yr adroddiad annibynnol ar yr ymgynghoriad yn ofalus ochr yn ochr ag ystod o wybodaeth arall. Roedd hyn yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am wydnwch gweithlu a gwasanaethau, cyflwr ystadau, pwysau gweithredol, gweithio rhanbarthol, safonau clinigol newydd a sut mae gwasanaethau yn cysylltu â'i gilydd.

Ystyriodd y Bwrdd hefyd y 22 opsiwn amgen a awgrymwyd fel rhan o'r broses ymgynghori ac a oedd yn bodloni meini prawf rhwystr. Meini prawf rhwystr yw'r amodau hanfodol y mae angen i syniad amgen eu bodloni, cyn iddo symud ymlaen i'w ystyried ymhellach fel opsiwn a gyflwynwyd i'r Bwrdd.

Yn ystod trafodaethau, archwiliodd y Bwrdd hefyd sut y gellid cyfuno rhai opsiynau amgen. Awgrymwyd yr opsiynau  hyn fel rhan o'r ymgynghoriad ond nid yw eto wedi'i profi yn erbyn yr un meini prawf rhwystr a sgorio. Dyma oedd hi yn achos strôc.

Fel rhan o'r broses o wneud penderfyniadau, aseswyd opsiynau i weld a oeddent yn glinigol gynaliadwy, yn gyflawnadwy, yn hygyrch, yn cyd-fynd â strategaeth hirdymor y Bwrdd Iechyd, ac yn ariannol gynaliadwy. Nododd y Bwrdd hefyd y bydd angen ymgysylltu pellach neu wybodaeth ychwanegol i ddeall effeithiau opsiynau cyn y gellir gwneud penderfyniadau terfynol. Ystyriwyd y camau ymarferol sydd angen eu cymryd ar gyfer gweithredu, gan gynnwys sut y byddai angen newid yn raddol, dros gyfnod.

Dywedodd Dr Neil Wooding, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Fel Bwrdd Iechyd, ein huchelgais yw i bobl fyw bywydau iachach yn hirach, gan gefnogi pobl i gadw'n iach ac atal salwch. Mae'r penderfyniadau a wnaed heddiw yn ein helpu i fynd i'r afael â rhai o'r gwasanaethau sydd fwyaf bregus ac sydd angen newid er mwyn gallu darparu gofal iechyd sy'n ddiogel, cynaliadwy, hygyrch, a charedig.

"Diolch i bawb a gymerodd yr amser i rannu eu barn yn ystod yr ymgynghoriad. Mae llawer o’r penderfyniadau a wnaed heddiw yn seiliedig ar opsiynau amgen gafodd eu cynnig gan aelodau’r cyhoedd trwy’r ymgynghoriad,ac rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi helpu i lunio’r syniadau hyn ochr yn ochr â ni. Mae ein Bwrdd wedi ymdrin â'r penderfyniadau hyn yn ofalus iawn, gan ystyried yr adborth, tystiolaeth glinigol, ystyriaethau gweithlu a’r effaith ehangach i sicrhau bod y newidiadau a wnawn yn awr yn cryfhau gwasanaethau i’r dyfodol.

"Nid yw'r rhain yn benderfyniadau hawdd, ond fel Bwrdd mae gennym ddyletswydd i sicrhau bod ein gwasanaethau yn darparu'r canlyniadau gorau i'n cleifion ac yn bodloni’r safonau uchaf."

Ychwanegodd Lee Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Chynllunio: "Rydym wedi gallu dod i gasgliad ar gyfer y mwyafrif o wasanaethau heddiw a bydd ein timau nawr yn gweithio ar ddatblygu cynlluniau gweithredu ar eu cyfer. Lle rydym wedi gweld bod angen ymgysylltu pellach, yn achos gwasanaethau strôc, ac er enghraifft, wrth ystyried y lleoliadau gorau ar gyfer y ganolfan sgrinio’r coluddyn o fewn endosgopi a’r ganolfan ranbarthol ar gyfer radioleg ddiagnostig wedi’i gynllunio,rydym am barhau â'r sgyrsiau hynny gyda'n cymunedau a chasglu'r wybodaeth sydd ei hangen cyn gwneud penderfyniad terfynol. Ein blaenoriaeth bob amser yw darparu'r safonau uchaf o ofal i'n cleifion ar draws Hywel Dda a'n cymunedau cyfagos."

"Wrth i'n timau ddatblygu'r cynlluniau gweithredu, byddwn yn ystyried yr adborth a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriad ac yn edrych ar sut y gallwn leihau unrhyw effeithiau negyddol. Rydym yn deall pryderon ein cymunedau, yn enwedig mewn perthynas â chyrchu gwasanaethau yn y rhan bennaf wledig hon o Gymru. Ein nod yw darparu gwell gofal ar draws ein system gofal iechyd, ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gydweithio â phartneriaid i leihau'r effaith ar gleifion a allai fod angen teithio ymhellach."

Cytunodd y Bwrdd ar gamau nesaf ar gyfer pob un o’r naw gwasanaeth sy’n cael eu crynhoi isod. Lle mae’r newid yn cynnwys buddsoddiad ychwanegol, bydd hyn yn destun proses achos busnes:

 

Gofal Critigol

Mae gofal critigol yn darparu gofal i gleifion sy'n oedolion sy'n ddifrifol wael gyda chyflyrau sy'n peryglu bywyd, o fewn unedau gofal dwys.

Dewisodd y Bwrdd Opsiwn 246 fel model gwasanaeth i’r dyfodol ar gyfer gofal critigol, ar gyfer y tymor canolig. Mae’r Bwrdd hefyd yn cydnabod bod Opsiwn A yn cyd-fynd a strategaeth tymor hwy y Bwrdd Iechyd ond er mwyn symud ymlaen bydd hefyd angen achos busnes ac adolygu yn y tymor hir, gan gynnwys ymgysylltu priodol a’n staff a’n cymunedau.

Yn ystod yr ymgynghoriad cynigiwyd opsiwn amgen (Opsiwn 246), yn seiliedig ar Opsiwn B, gan y gymuned ac roedd yn bodloni meini prawf rhwystr. Yn Opsiwn B gwelwyd cynnig ar gyfer unedau gofal dwys yn ysbytai Bronglais, Glangwili, a Llwynhelyg gydag uned gofal uwch yn Ysbyty Tywysog Philip. Y gwahaniaeth yn Opsiwn 246 yw y bydd staff yn cael eu cefnogi i weithio rhwng ysbytai i ddatblygu a chadw eu sgiliau a darparu cefnogaeth, fel bod gan bob uned fynediad at yr un dechnoleg, gwybodaeth ac arbenigedd glinigol.

Pan gaiff ei weithredu, bydd hyn yn dod â gwasanaethau gofal critigol arbenigol at ei gilydd ar lai o safleoedd ysbyty. Nod hyn yw helpu i fynd i'r afael â phwysau staffio hirsefydlog a gwella diogelwch ac ansawdd gofal i'r cleifion mwyaf difrifol wael.

Yn Opsiwn 246, bydd cleifion yn Ysbyty Tywysog Philip sydd angen gofal critigol arbenigol yn cael eu trosglwyddo i Glangwili. Byddai hyn yn gweld sefydlu Uned Gofal Uwch yn Ysbyty Tywysog Philip, a fydd yn darparu gofal yn lleol i gleifion llai sâl.

Cytunodd y bwrdd y byddai'r model hwn yn creu gwasanaeth mwy cynaliadwy i gleifion ac yn darparu'r safonau uchaf o ofal pan fydd cleifion yn ddifrifol wael.

Wrth wrando ar ein cyhoedd a'n clinigwyr, mae'r Bwrdd yn cydnabod y bydd hyn yn arwain at wneud y trosglwyddiadau cleifion dros dro presennol rhwng ysbytai yn barhaol ac eisiau parhau i weithio gyda chymunedau i helpu i wneud gwasanaethau yn hygyrch i bawb. Wrth wneud y penderfyniad hwn, trafododd y Bwrdd sut mae'r dull hwn yn darparu'r cyfle cryfaf i sefydlogi gwasanaethau gofal critigol a sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn gynaliadwy ar gyfer i’r dyfodol.

 

Dermatoleg

Mae gwasanaethau dermatoleg yn diagnosio a thrin clefydau'r croen, gwallt ac ewinedd mewn plant, pobl ifanc ac oedolion.

Dewisodd y Bwrdd Opsiwn C yr ymgynghorwyd arno, fel model gwasanaeth i’r dyfodol ar gyfer dermatoleg, gyda chytundeb i barhau i gydweithio’n agos â meddygfeydd i ystyried sut y gallent ddarparu mân weithdrefnau yn y gymuned o fewn y ddwy i bedair blynedd nesaf.  

O dan y penderfyniad hwn, bydd cleifion sydd angen gofal a thriniaeth dermatoleg arbenigol yn gallu cael mynediad at hyn o Ysbyty Tywysog Philip. Bydd y defnydd o telefeddygaeth ynghyd â chlinigau dan arweiniad nyrsys, gan gynnwys mân lawdriniaethau yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi a chefnogaeth meddygfeydd, yn cefnogi pobl i gael mynediad at ofal yn fwy lleol ac yn lleihau'r angen i deithio pan nad oes angen. Bydd darparu clinigau pediatrig (plant) dan arweiniad nyrsys yng Nghanolfan Iechyd Cross Hands yn cefnogi plant a phobl ifanc i gael mynediad at wasanaethau mewn amgylchedd mwy cyfeillgar. Y nod yw mynd i'r afael â phwysau staffio a gwella diogelwch ac ansawdd gofal.

Mae'r Bwrdd yn cydnabod y bydd hyn yn golygu y bydd angen i gleifion deithio ymhellach i gael mynediad at wasanaethau dermatoleg arbenigol ac eisiau parhau i weithio gyda chymunedau i helpu i wneud gwasanaethau yn hygyrch i bawb. Wrth wneud y penderfyniad hwn, trafododd y Bwrdd sut mae'r dull hwn yn darparu'r cyfle cryfaf i gefnogi a datblygu ein gweithlu dermatoleg a sicrhau bod y gwasanaeth yn ddiogel ac yn gynaliadwy i’r dyfodol a sicrhau bod cleifion yn cael mynediad cyflymach i’r gwasanaeth.

 

Llawfeddygaeth Gyffredinol Frys        

Mae'r gwasanaeth llawfeddygaeth gyffredinol frys yn wasanaeth ar gyfer oedolion yn unig, mae plant a phobl ifanc sydd angen llawdriniaeth gyffredinol frys yn cael eu trin trwy wasanaethau Ysbyty i blant (yn Glangwili a Bronglais yn ardal Hywel Dda).

Dewisodd y Bwrdd Opsiwn A fel model gwasanaeth i’r dyfodol ar gyfer llawfeddygaeth gyffredinol frys. Mynegodd y Bwrdd hefyd eu bod am esblygu i Opsiwn 155 ond bydd hyn yn gofyn am ystyried achos busnes. Roedd Opsiwn Amgen 155 yn opsiwn a gyflwynwyd yn ystod yr ymgynghoriad ac roedd yn cynnwys Uned Gofal Brys Llawfeddygol yr Un Diwrnod yn Ysbyty Bronglais, ochr yn ochr â'r rhai yn ysbytai Glangwili a Llwynhelyg. Cydnabu'r Bwrdd hefyd fod Opsiwn 222 yn cyd-fynd â strategaeth hirdymor y Bwrdd Iechyd ond bydd hefyd yn gofyn am achos busnes ac adolygiad yn y tymor hwy, gan gynnwys ymgysylltu priodol â'n staff a‘n cymunedau.

Bydd Opsiwn A yn dod â llawfeddygon o ysbytai Glangwili a Llwynhelyg at ei gilydd mewn un tîm. Golyga hyn y bydd  llawdriniaethau brys yn cael eu darparu o ysbytai Bronglais a Glangwili. Nod hyn yw helpu i fynd i'r afael â phwysau staffio hirsefydlog a gwella diogelwch ac ansawdd gofal i'r cleifion mwyaf difrifol wael.

O dan y penderfyniad hwn, bydd cleifion yn ysbytai Glangwili a Llwynhelyg yn gallu cael mynediad at ofal trwy unedau Gofal Brys Llawfeddygol yr Un Diwrnod, a all gefnogi'r rhan fwyaf o bobl heb yr angen am lawdriniaeth. Bydd cleifion o Ysbyty Llwynhelyg sydd angen llawdriniaeth frys yn cael eu trosglwyddo i Ysbyty Glangwili ac yn dychwelyd i Ysbyty Llwynhelyg, eu cartref, neu’r gymuned, pan fydd yn ddigon da i wneud hynny.

Mae'r Bwrdd yn cydnabod y bydd hyn yn arwain at fwy o drosglwyddiadau cleifion rhwng ysbytai ac eisiau parhau i weithio gyda chymunedau i helpu i wneud gwasanaethau yn hygyrch i bawb. Wrth wneud y penderfyniad hwn, trafododd y Bwrdd sut mae'r dull hwn yn darparu'r cyfle cryfaf i sefydlogi gwasanaethau llawfeddygaeth gyffredinol frys a sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn gynaliadwy i’r dyfodol.

 

Endosgopi

Mae endosgopi yn weithdrefn a ddefnyddir i edrych y tu mewn i'r corff. Ar gyfer cleifion dros 16 oed, mae gweithdrefn endosgopi yn archwilio y tu mewn i organ neu geudod gwag.

Dewisodd y Bwrdd Opsiwn A fel y model gwasanaeth i’r dyfodol ar gyfer endosgopi. Mae angen rhagor o waith ar ddarparu'r gwasanaeth yn y dyfodol, mewn perthynas â bodloni'r galw yn y dyfodol, a fydd yn cynnwys gwaith pellach o amgylch y safle posibl neu sawl safle ar gyfer darparu'r gwasanaeth hwn yn y dyfodol.

Bydd Opsiwn A, pan gaiff ei weithredu, yn dod â gweithdrefnau anadlol ac wroleg at ei gilydd yn Ysbyty Tywysog Philip, tra'n cadw gweithdrefnau sgrinio gastroberfeddol a choluddyn ym mhob safle ysbyty. Nod hyn yw helpu i fynd i'r afael â'r cynnydd disgwyliedig yn y ddarpariaeth gwasanaethau yn y dyfodol a bydd yn cefnogi datblygiad uned ymchwilio wrolegol yn Ysbyty Tywysog Philip. Yn ogystal, cytunodd y Bwrdd i archwilio opsiynau ar gyfer gwasanaeth endosgopi cymunedol, gan gydnabod y bydd hyn yn gofyn am ymgysylltu ychwanegol gyda’r gymuned ar adeg briodol.

O dan y penderfyniad hwn, byddai ystafell weithdrefnau ychwanegol yn Ysbyty Tywysog Philip i ganiatáu i fwy o bobl gael mynediad at weithdrefnau diagnostig, ond ni fyddai unrhyw newidiadau i'r gwasanaeth sgrinio coluddyn presennol nac endosgopi brys ar draws safleoedd ysbytai eraill. Bydd hyn yn ein galluogi i gyflawni achrediad priodol.

Mae'r Bwrdd yn cydnabod y bydd hyn yn arwain at rai cleifion yn gorfod teithio ymhellach ac eisiau parhau i weithio gyda chymunedau i helpu i wneud gwasanaethau yn hygyrch i bawb. Wrth wneud y penderfyniad hwn, trafododd y Bwrdd sut mae'r dull hwn yn darparu'r cyfle gorau i ateb y galw yn y dyfodol fel y gall pobl gael mynediad at brofion mewn ffordd amserol, yn ogystal â chefnogi'r gweithlu i dyfu i wynebu’r heriau hyn.

 

Offthalmoleg

Offthalmoleg yw trin clefydau ac anafiadau llygaid, ac yn cynnwys gweithdrefnau llawfeddygol ar y llygaid, ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion.

Dewisodd y Bwrdd Opsiwn 99 fel model gwasanaeth ar gyfer Offthalmoleg i’r dyfodol, gyda chynnwys Canolfan Gofal Integredig Aberaeron fel darparwr gwasanaethau (wedi’i gymryd o Opsiwn 173), yn amodol ar broses achos busnes.

Yn ystod yr ymgynghoriad cynigiwyd opsiwn amgen (Opsiwn 99), yn seiliedig ar Opsiwn A, a oedd yn bodloni'r meini prawf rhwystr. Y gwahaniaeth rhwng Opsiwn A ac Opsiwn 99 yw y byddai ysbyty Dyffryn Aman yn darparu cleifion allanol (ar gyfer pigiadau llygaid) yn ogystal ag achosion dydd (ar gyfer cataractau).

Pan gaiff ei weithredu, bydd hyn yn dwyn ynghyd y prif wasanaethau ysbyty, gan gynnwys gofal llygaid brys, yn Ysbyty Glangwili. Bydd diagnosteg a gwasanaeth cleifion allanol yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi a Chlinig Llygaid Ffordd y Gogledd. Nod hyn yw creu gwasanaeth mwy cynaliadwy a gwella amseroedd aros i gleifion trwy ganolbwyntio arbenigedd mewn llai o safleoedd.

Gan gydnabod bod cyfran sylweddol o’r gwasanaeth offthalmoleg yn cael ei ddarparu o leoliad cymunedol, penderfynodd y Bwrdd y dylai’r gwasanaethau gael eu darparu o Ganolfan Gofal Integredig Aberteifi, Clinig Llygaid Ffordd y Gogledd, a Chanolfan Gofal Integredig Aberaeron. O dan y penderfyniad hwn, ni fydd ysbytai Bronglais a Tywysog Philip bellach yn darparu gwasanaethau a bydd Ysbyty Llwynhelyg yn parhau i ddarparu diagnosteg a chleifion allanol. 

Mae'r Bwrdd yn cydnabod y bydd hyn yn arwain at rai cleifion yn gorfod teithio ymhellach am driniaeth. Wrth wneud y penderfyniad hwn, trafododd y Bwrdd, er y gallai fod angen i rai cleifion deithio ymhellach ar gyfer triniaeth fel cataractau, mae'n cefnogi'r gwasanaeth i barhau i ddarparu pigiadau llygaid rheolaidd mor agos at adref â phosibl a all atal colled golwg anadferadwy.

 

Orthopedeg

Mae orthopedeg, a elwir hefyd yn llawfeddygaeth orthopedig, yn canolbwyntio ar ofal y system gyhyrysgerbydol a'i rhannau, fel esgyrn, cymalau a meinwe meddal. Mae'r opsiynau gwasanaeth a ddewiswyd yn cyfeirio at orthopaedeg wedi'i gynllunio ac nid orthopaedeg frys (trawma).

Dewisodd y Bwrdd Opsiwn D fel y model gwasanaeth i’r dyfodol ar gyfer Orthopaedeg gydag archwilio'r oriau estynedig y cyfeirir atynt yn Opsiwn 178, a allai gynnwys diwrnodau gwaith neu benwythnosau hirach. Byddai hyn yn cael ei ddiffinio yn ystod cam gweithredu'r gwaith. 

Yn Opsiwn D, bydd Ysbyty Llwynhelyg yn ymestyn gwasanaeth orthopedeg i ganolbwyntio ar ddarparu nifer uwch o weithdrefnau achosion dydd orthopedeg llai cymhleth, tra bydd Ysbyty Tywysog Philip yn parhau i ddarparu gofal wedi’i gynllunio mwy cymhleth i gleifion lleol a rhanbarthol. Mae'r opsiwn hefyd yn cynnwys ehangu gwasanaethau llawfeddygol yn Ysbyty Bronglais fel y gall mwy o gleifion dderbyn eu llawdriniaethau yno.

Wrth ystyried effeithiau'r opsiwn hwn, nododd y Bwrdd y bydd canolbwyntio gweithdrefnau orthopedeg llai cymhleth yn Llwynhelyg yn cefnogi cynnydd cyffredinol mewn gweithgarwch achosion dydd. Roedd hefyd yn cydnabod y bydd gweithio rhanbarthol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn parhau, sy'n golygu y gallai rhai cleifion dderbyn gofal y tu allan i ardal Hywel Dda i gael eu gweithdrefnau orthopedeg yn gynt, a bydd angen iddynt deithio ymhellach i gael triniaeth. Bydd y gwasanaeth estynedig yn Bronglais yn galluogi mwy o gleifion i gael llawdriniaeth yn lleol, tra bydd cleifion o Sir Benfro yn parhau i deithio i Ysbyty Tywysog Philip ar gyfer gweithdrefnau cleifion mewnol dros nos, fel y maent yn ei wneud nawr.

O ran cyflawni, cadarnhaodd y Bwrdd y gellid gweithredu'r newidiadau hyn i'r ysbyty o fewn dwy flynedd gan ddefnyddio staffio a chyllid presennol. Mae cymorth therapi ychwanegol wedi'i gynllunio ar gyfer blwyddyn pedwar neu'n ddiweddarach, yn amodol ar sicrhau'r gweithlu a'r buddsoddiad angenrheidiol.

 

Radioleg

Mae radioleg yn defnyddio technegau delweddu (fel pelydr-x) i ddiagnosio, trin a monitro clefydau ac anafiadau a nodwyd yn y corff.

Dewisodd y bwrdd Opsiwn amgen 103 ar gyfer radioleg, a gyflwynwyd gan aelodau’r cyhoedd. Fel y cyflwynwyd yn ystod yr ymgynghoriad ar radioleg, mae radioleg ddiagnostig brys 24/7 i'w chadw ym mhob un o'r pedwar ysbyty ar draws Hywel Dda.

Mae Opsiwn Amgen 103 yn cadw radioleg ddiagnostig ac ymyrrol achosion dydd wedi'i gynllunio o ddydd Llun i ddydd Gwener ym Mronglais. Dros amser, bydd diagnosteg wedi'i gynllunio yn symud i wasanaeth saith diwrnod yn Tywysog Philip a Llwynhelyg, a fydd hefyd yn darparu radioleg ymyrrol cleifion mewnol ac achosion dydd yn ystod yr wythnos. Bydd Glangwili yn parhau i ganolbwyntio ar radioleg ymyrrol cleifion mewnol yn unig.

Bydd yr opsiwn hwn yn cefnogi diagnosis cyflymach a chreu ffocws canser pwrpasol yn Tywysog Philip a Llwynhelyg. Byddai lleoliad y ganolfan ranbarthol newydd ar gyfer radioleg ddiagnostig wedi'i chynllunio yn gofyn am ymgysylltu pellach i nodi lleoliad y ganolfan.

Nododd y Bwrdd y bydd angen mwy o staff i gefnogi oriau estynedig a lleihau'r pwysau presennol. Bydd angen achos busnes llawn a thua £48 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru ar y ganolfan ddiagnostig a bydd yn cymryd sawl blwyddyn i'w datblygu.

Bydd gwasanaethau pelydr-X yn cael eu tynnu o Lanymddyfri a De Sir Benfro fel rhan o weithredu’r Opsiwn.

 

Strôc

Mae strôc yn gyflwr meddygol difrifol sy'n peryglu bywyd sy'n digwydd pan fydd y cyflenwad gwaed i ran o'r ymennydd yn cael ei dorri i ffwrdd.

Dewisodd y Bwrdd syniad amgen, i gyfuno opsiynau amgen 106 a 210 fel model i'w symud ymlaen i'w ystyried ymhellach ar gyfer gwasanaethau strôc. Mae hwn yn syniad newydd nad oedd wedi'i gynnwys yn y broses ymgynghori a bydd angen asesu ac ymgysylltu pellach â staff a chymunedau.

Mae'r syniad hwn yn dwyn ynghyd elfen uned adsefydlu strôc Ysbyty Bronglais o Opsiwn 106 gyda'r uned strôc gyda staffio arbenigol 24 awr yn Glangwili o Opsiwn 210.Fel rhan o'r syniad arfaethedig hwn, bydd pob ysbyty yn cadw’r gallu i ddarparu’r driniaeth gychwynnol ar gyfer  strôc, cyn i gleifion gael eu trosglwyddo i Ysbyty Glangwili, neu’r ganolfan thrombectomi arbenigol. Byddai cleifion sydd angen adsefydlu ychwanegol yn y Canolbarth yn gallu derbyn hyn o Ysbyty Bronglais yn yr Opsiwn hwn.

Clywodd y Bwrdd fod safonau gofal strôc wedi codi'n sylweddol dros y ddegawd ddiwethaf, ac mae gwasanaethau strôc bellach yn cael eu hystyried fel gwasanaethau arbenigol yn hytrach na gwasanaethau acíwt cyffredinol. Roedd yn cydnabod bod cyfleoedd i ddylunio modelau adsefydlu arloesol, creadigol a allai hefyd gynnig rolau newydd i staff.

Mae'r syniad cyfunol (opsiynau 106 a 210) yn gofyn am ystyriaeth ofalus, cynllunio busnes manwl, ac ymgysylltu cyhoeddus pellach. Gan gydnabod bod opsiynau 106 a 210 yn bodloni'r asesiad meini prawf rhwystr, fel opsiwn cyfunol mae hyn yn gofyn am waith pellach i'w asesu.

Nododd y Bwrdd y gallai'r dull hwn gryfhau'r gwasanaeth strôc trwy ddod â staff at ei gilydd ar lai o safleoedd ac ymestyn darpariaeth arbenigol y tu hwnt i'r model Llun i Gwener presennol. Cydnabu y byddai angen gweithio ar y syniad hwn yn fwy manwl a byddai angen ymgysylltu pellach â'n cymunedau cyn y gellid gwneud penderfyniad. Bydd y cynllun ar gyfer ymgysylltu a datblygu’r syniad newydd hwn ymhellach yn cael ei ddwyn yn ôl i gyfarfod y Bwrdd yn y dyfodol.

 

Wroleg

Mae wroleg yn gofalu am gleifion sy'n oedolion sydd â chyflyrau sy'n effeithio ar y system llwybr cenhedlol-wrinol mewn dynion a menywod (ee, arennau, bledren) a'r llwybr atgenhedlu mewn dynion (ceilliau, pidyn, a'r prostad).

Dewisodd y Bwrdd Opsiwn A fel model i’r dyfodol ar gyfer gwasanaethau wroleg i wella gofal a lleihau amseroedd aros.

O dan yr Opsiwn hwn, bydd yr holl ofal cleifion mewnol wroleg nad yw’n frys wedi'i leoli yn Ysbyty Tywysog Philip, a fydd hefyd yn gartref i ganolfan ddiagnostig newydd. Bydd y ganolfan hon yn darparu diagnosteg wroleg ar gyfer Sir Gaerfyrddin a diagnosteg brys lle’r amheuir canser ar gyfer ardal gyfan y Bwrdd Iechyd. Gan fod gwasanaeth endosgopi eisoes ar safle Tywysog Philip, bydd dod ag wroleg i'r un lleoliad yn caniatáu i'r ddau wasanaeth gydweithio'n agosach.

Bydd apwyntiadau cleifion allanol, gweithdrefnau achosion dydd a phrofion arferol yn parhau yn ysbytai Bronglais a Llwynhelyg, tra bydd Glangwili yn canolbwyntio ar achosion wroleg frys. Mae'r model hwn wedi'i gynllunio i greu gwasanaeth mwy effeithlon ac wedi’i staffio’n well, ac i leihau nifer yr ymweliadau ysbyty neilltuol i lawer o gleifion.

Mae'r Bwrdd yn cydnabod y gallai fod angen i rai pobl deithio ymhellach ar gyfer profion penodol neu driniaeth cleifion mewnol ond teimlai y byddai dwyn gwasanaethau cleifion mewnol ynghyd ar un safle yn helpu i wella ansawdd gofal, gan gynnwys amserlenni a recriwtio a hyfforddiant staff.

Bydd gweithdrefnau achosion dydd a phrofion arferol yn parhau yn ysbytai Bronglais a Llwynhelyg, tra bydd Glangwili yn canolbwyntio ar achosion wroleg frys.

Bydd y gwasanaeth newydd yn dechrau cael ei gyflwyno o fewn dwy flynedd, gyda'r ganolfan ddiagnostig wedi'i datblygu'n llawn o fewn dwy i bedair blynedd, yn amodol ar staffio a chyllid.  Wrth ddewis yr opsiwn hwn, cytunodd y Bwrdd bod angen i'r holl benderfyniadau a wnaed wella ansawdd y gwasanaeth a mynd i'r afael ag amseroedd aros.

 

Rôl safleoedd ysbytai yn y dyfodol

Yn ogystal â'r naw gwasanaeth clinigol, ystyriodd y Bwrdd yr adborth a gafwyd drwy'r ymgynghoriad ar rolau'r ysbytai acíwt yn y dyfodol. Cydnabu'r Bwrdd y bydd newidiadau i'r naw gwasanaeth clinigol yn effeithio ar sut mae gofal yn cael ei drefnu ar draws y pedwar prif safle ysbyty. Drwy ddisgrifio rolau pob ysbyty yn y dyfodol, mae'r Bwrdd yn dod i ddeall sut mae angen cynllunio a darparu gwasanaethau hyd nes y bydd strategaeth Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach yn cael ei gweithredu'n llawn.

Mae'r rolau hyn i’r dyfodol yn ailgadarnhau sut mae ein pedwar safle ysbyty acíwt i gyd yn chwarae rhan bwysig ac yn cyfrannu at rwydwaith ehangach ysbytai Hywel Dda:

Ysbyty Bronglais parhau i wella’r ystod bresennol o wasanaethau a ddarperir, er y gall rhai elfennau arbenigol gael eu darparu ar safleoedd eraill Hywel Dda.

Ysbyty Glangwili canolbwyntio mwy ar ofal acíwt ac argyfwng, gyda rhywfaint o ofal wedi'i gynllunio yn symud i rywle arall yn dibynnu ar y gwasanaeth neu'r cyflwr.

Ysbyty Tywysog Philip cynyddu ei rôl wrth ddarparu gofal wedi'i gynllunio, yn enwedig ar gyfer rhanbarth ehangach ac mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Ysbyty Llwynhelyg ehangu'r ddarpariaeth gofal wedi'i gynllunio o fewn Hywel Dda, gan gynnal mynediad cychwynnol at ofal acíwt ond trosglwyddo'r achosion mwyaf cymhleth i Glangwili.

Nid oes unrhyw newid i'r ffordd y mae pobl yn cyrchu gofal mewn argyfwng, neu ofal mân anafiadau ar unrhyw un o'r safleoedd.

Eglura Mark Henwood, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol: "Dymunaf dawelu meddwl aelodau’r cyhoedd bod ein gwasanaethau’n parhau i fod yn ddiogel, ond maen nhw’n fregus ac angen eu gwella i ddarparu’r canlyniadau a’r profiad gorau i gleifion.Ni fydd unrhyw newidiadau yn digwydd ar unwaith o ganlyniad i’r penderfyniadau a wnaethom fel Bwrdd heddiw. Wrth i ni weithio i ddatblygu ein cynlluniau gweithredu, bydd gwasanaethau clinigol ar draws pob safle ysbyty yn parhau i weithredu fel y maent nawr, a dylai cleifion fynychu eu hapwyntiadau fel arfer. Yn ystod y misoedd nesaf, bydd yr opsiynau a ddewiswyd yn cael eu datblygu'n gynlluniau manwl ar gyfer eu cyflawni.

"Byddwn yn gweithio gyda chydweithwyr clinigol a gweithredol i weithredu'r newidiadau, gan gydnabod bod graddfa a natur y gwaith yn golygu y bydd angen cyflwyno newidiadau fesul cam, o bosib dros ychydig flynyddoedd. Byddwn yn parhau i weithio gyda'n cymunedau ac yn rhoi gwybod i'n cleifion am unrhyw newidiadau pan fyddant yn cael eu gweithredu."

Ar gyfer opsiynau fel gwasanaethau strôc, lle nododd y Bwrdd fod angen ymgysylltu pellach a gwybodaeth ychwanegol, bydd y gwaith hwn yn parhau cyn i unrhyw benderfyniadau terfynol gael eu gwneud. Bydd y Bwrdd Iechyd yn ymgymryd ag ymgysylltu pellach â’n staff a chymunedau i sicrhau bod yr holl dystiolaeth ac effeithiau yn cael eu hasesu'n llawn. Yna, bydd adborth o weithgareddau ymgysylltu ochr yn ochr ag unrhyw wybodaeth newydd yn cael ei ddwyn yn ôl i’w ystyried gan y Bwrdd mewn cyfarfod yn y dyfodol.

Roedd y Bwrdd yn cydnabod bod penderfyniadau anodd wedi'u gwneud heddiw a diolchodd i bawb sydd wedi gweithio ochr yn ochr â nhw drwy gydol y broses. Lle cytunwyd ar newidiadau i wasanaethau, ni fydd y rhain yn digwydd ar unwaith. Bydd cynlluniau gweithredu yn cael eu datblygu, gyda newidiadau yn cael eu cyflwyno fesul cam ac mewn cydweithrediad agos â staff, partneriaid a chymunedau lleol. Mae llesiant cleifion a darparu safonau gofal uchel yn gyson yn parhau i lywio'r gwaith hwn wrth iddo fynd rhagddo.

Mae papurau'r Bwrdd a dolen i ddarllediad y cyfarfod ar gael ar wefan y Bwrdd Iechyd. (agor mewn dolen newydd) 

Mae rhagor o wybodaeth am y Cynllun Gwasanaethau Clinigol hefyd ar gael ar wefan y Bwrdd Iechyd. (agor mewn dolen newydd)