Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd yn ceisio barn ar leoliad gwasanaeth Man Diogel Adran 136 yn y dyfodol

1 Medi 2026

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gwahodd defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr, staff, sefydliadau partner ac aelodau o'r cyhoedd i rannu eu barn ar leoliad ei wasanaeth Man Diogel Adran 136 i oedolion yn y dyfodol.

Mae adran 136 yn rhan o'r Ddeddf Iechyd Meddwl sy'n rhoi pwerau brys i'r heddlu. Gall swyddogion yr heddlu ddefnyddio'r rhain i fynd â pherson sy'n profi argyfwng iechyd meddwl mewn man cyhoeddus am hyd at 24 awr i le diogel dynodedig, lle gallant dderbyn asesiad a chymorth priodol. Mae gan y Bwrdd Iechyd gyfrifoldeb statudol i ddarparu'r gwasanaeth hwn.

Bydd yr ymgysylltiad yn rhedeg rhwng 1 Medi a 26 Hydref 2026 a bydd yn casglu adborth ar opsiwn a ffefrir i ddatblygu ystafell bwrpasol i oedolion Adran 136 yng Nghwm Seren, Parc Dewi Sant, Caerfyrddin.

Mae'r lleoliad a ffefrir ar gyfer y man diogel ar gyfer Hywel Dda wedi'i nodi yn dilyn proses arfarnu opsiynau amlasiantaethol sy'n cynnwys partneriaid gan gynnwys Heddlu Dyfed-Powys, awdurdodau lleol, Gweithredu dros Iechyd Meddwl Gorllewin Cymru (WWAMH) a Llais.

Ers pandemig COVID-19, mae'r man diogel ar gyfer Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro wedi'i gyfuno â ward Bryngofal yn Llanelli. Mae'r cynnig yn dilyn adolygiad o'r cyfleusterau presennol, a amlygodd heriau amgylcheddol a staffio. Aseswyd modelau posibl ar gyfer darpariaeth yn y dyfodol fel rhan o'r broses arfarnu gan ystyried ansawdd, diogelwch, profiad cleifion, gweithlu, cynaliadwyedd, gofynion gweithredol a chyfrifoldebau statudol.

Daeth yr asesiad i'r casgliad y byddai cyfleuster pwrpasol yng Nghwm Seren yn darparu'r model gofal mwyaf diogel, mwyaf clinigol effeithiol a chynaliadwy. Er na all unrhyw leoliad unigol ddileu teithio i bob unigolyn, mae Caerfyrddin yn darparu'r lleoliad mwyaf canolog ar draws ôl troed y Bwrdd Iechyd ac yn lleihau amseroedd teithio i lawer o unigolion a gweithwyr proffesiynol o Geredigion a Sir Benfro. Byddai hefyd yn cynnig mynediad uniongyrchol at gymorth iechyd meddwl arbenigol, gwell rheoli risg acíwt a gwell mynediad at wasanaethau gofal iechyd corfforol pan fo angen.

Mae'r ymgysylltiad yn ceisio adborth ar yr opsiwn a ffefrir, ei effaith bosibl ar unigolion a chymunedau, ac unrhyw fesurau a allai helpu i leihau neu fynd i'r afael â phryderon.

Dywedodd Andrew Carruthers, Prif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Mae pobl sy'n profi argyfwng iechyd meddwl yn aml yn agored i niwed ac mae'n hanfodol ein bod yn darparu amgylchedd diogel, priodol a chefnogol lle gallant gael asesiad a gofal amserol.

"Mae'r opsiwn a ffefrir ar gyfer Man Diogel Adran 136 pwrpasol yng Nghwm Seren wedi'i nodi yn dilyn gwaith helaeth gyda'n partneriaid ac asesiad manwl o ystod o fodelau posibl. Fodd bynnag, nid oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud eto, ac mae'n bwysig ein bod yn clywed gan y rhai a allai fod yn cael eu heffeithio gan y cynnig hwn.

"Byddem yn annog defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr, staff, sefydliadau partner a chymunedau lleol i gymryd rhan yn yr ymgysylltiad a rhannu eu barn. Bydd eich adborth yn ein helpu i ddeall effeithiau posibl y newid hwn a sicrhau bod pob barn yn cael ei ystyried cyn i unrhyw benderfyniadau yn y dyfodol gael eu gwneud."

Mae'r Bwrdd Iechyd yn gwahodd pobl i rannu eu barn yn y ffyrdd canlynol cyn dydd Llun 26 Hydref 2026:

  • Drwy ofyn am gopi papur drwy Hyb Cyfathrebu'r Bwrdd Iechyd ar 0300 303 8322 (opsiwn 5) a'i ddychwelyd drwy FREEPOST HYWEL DDA UNIVERSITY HEALTH BOARD
  • Ffonio Hyb Cyfathrebu'r Bwrdd Iechyd ar 0300 303 8322 (opsiwn 5)

Bydd ymgysylltu wedi'i dargedu hefyd yn digwydd gyda phobl sydd â phrofiad byw o broblemau iechyd meddwl, gyda chyfranogiad yn cael ei gefnogi a'i hwyluso gan sefydliadau cymorth iechyd meddwl.

Bydd adborth a dderbynnir yn ystod y cyfnod ymgysylltu yn helpu i lywio'r ystyriaeth gan y Bwrdd Iechyd o'r opsiwn a ffefrir ac yn cefnogi'r broses o wneud penderfyniadau yn y dyfodol ynghylch darparu gwasanaethau Man Diogel Adran 136 ar draws Hywel Dda.