Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd i wneud penderfyniadau ar y Cynllun Gwasanaethau Clinigol yng nghyfarfod mis Chwefror

11 Chwefror 2026

Bydd penderfyniadau'n cael eu gwneud ar y naw gwasanaeth clinigol sydd wedi'u cynnwys yn y Cynllun Gwasanaethau Clinigol yng nghyfarfod eithriadol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda 18 a 19 Chwefror 2026.  

Yn ddiweddar, bu i’r Bwrdd Iechyd ymgynghori â'i gymunedau ar opsiynau ar gyfer newid mewn gofal critigol, dermatoleg, llawfeddygaeth gyffredinol frys, endosgopi, offthalmoleg, orthopedeg, strôc, radioleg ac wroleg. Nod yr opsiynau yw mynd i'r afael â bregusrwydd y gwasanaethau, gwella safonau a lleihau amseroedd aros i bobl sydd angen diagnosis a thriniaeth. 

Mae adroddiad ymgynghori annibynnol a baratowyd gan Opinion Research Services yn rhan o'r wybodaeth y bydd y Bwrdd yn ystyried. Mae'r adroddiad yn crynhoi mwy na 4,000 o ymatebion holiaduron yn ogystal â'r adborth a rannwyd mewn digwyddiadau cyhoeddus, cyfarfodydd staff a sesiynau rhanddeiliaid. Bydd yr adroddiad yn cael ei ystyried ochr yn ochr â gwybodaeth ddiweddaraf am y gweithlu, cyflwr ystadau, safonau clinigol newydd, pwysau gweithredol a sut mae gwahanol wasanaethau'n cydgysylltu ar draws y Bwrdd Iechyd. 

Mae'r wybodaeth a fydd yn cael ei hystyried gan aelodau'r Bwrdd bellach ar gael i'w gweld ar-lein cyn y cyfarfod. Mae'r dogfennau hyn yn cynnwys gwybodaeth am adborth yr ymgynghoriad, yn ogystal â dadansoddiadau ac asesiadau y bydd y Bwrdd yn tynnu arnynt wrth benderfynu ar y model ar gyfer y naw gwasanaeth i’r dyfodol. 

Yn ystod yr ymgynghoriad, rhannodd y cymunedau 190 o syniadau amgen unigryw ychwanegol ar gyfer y gwasanaethau. Ers diwedd yr ymgynghoriad, mae'r syniadau hyn wedi'u hasesu yn erbyn meini prawf rhwystr - yr amodau hanfodol y mae angen i syniad amgen eu bodloni, cyn y gall symud ymlaen i'w ystyried ymhellach a dod yn opsiwn a gyflwynir i'r Bwrdd. 

Aseswyd y syniadau amgen hefyd gan grwpiau rhanddeiliaid a oedd yn cynnwys staff, cynrychiolwyr cymunedol ac aelodau o grwpiau ymgyrchu lleol. O'r 190 o syniadau amgen, pasiodd 22 y meini prawf rhwystr ac maent wedi'u datblygu ymhellach yn opsiynau. Bydd y rhain yn cael eu hystyried yng nghyfarfod y Bwrdd ochr yn ochr â'r opsiynau a rannwyd yn ystod yr ymgynghoriad. 

Bydd y Bwrdd yn ystyried a yw'r opsiynau, gan gynnwys y 22 syniad amgen, yn glinigol gynaladwy, yn gyflawnadwy, yn hygyrch, yn cyd-fynd â strategaeth hirdymor y Bwrdd Iechyd ac yn ariannol gynaliadwy. Bydd hefyd yn asesu a fydd angen ymgysylltu pellach, neu wybodaeth ychwanegol, cyn gwneud penderfyniad terfynol.. Bydd ystyriaeth yn cael ei roi i'r camau ymarferol sydd angen eu cymryd ar gyfer gweithredu, gan gynnwys a fyddai angen cyflwyno newidiadau fesul cam, dros gyfnod. 

Dywedodd Dr Neil Wooding, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Yn ein cyfarfod yr wythnos nesaf, bydd y Bwrdd yn rhoi ystyriaeth ofalus i adborth yr ymgynghoriad ochr yn ochr â'r dystiolaeth glinigol ddiweddaraf, mewnwelediadau i'r gweithlu, asesiadau effaith diweddaraf a'r opsiynau amgen a gyflwynwyd yn ystod yr ymgynghoriad. 

"Ein cyfrifoldeb yw ystyried yr ystod lawn o dystiolaeth a gwneud yn siŵr bod ein penderfyniadau yn sicrhau gwasanaethau cynaliadwy i’r dyfodol. Nid oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud cyn cyfarfod y Bwrdd. Rydym wedi ymrwymo i broses drylwyr a thryloyw, gan sicrhau bod pob opsiwn a phob opsiwn amgen yn cael eu hystyried yn y rownd, ac yn canolbwyntio ar wella gwasanaethau i'r bobl sy'n dibynnu arnynt." 

Cynhelir cyfarfod eithriadol y Bwrdd dros ddau ddiwrnod, ddydd Mercher 18 a dydd Iau 19 Chwefror 2026. Bydd y diwrnod cyntaf wedi'i neilltuo i adolygu'r dystiolaeth ac ystyried yr opsiynau yn fanwl. Mae penderfyniadau ar yr opsiynau arfaethedig i fod i gael eu gwneud ar yr ail ddiwrnod.  

Mae'r fformat estynedig hwn yn rhoi'r amser sydd ei angen i aelodau'r Bwrdd i adolygu'r dystiolaeth ac i ddeall sut mae gwasanaethau yn ymwneud â'i gilydd. Bydd hefyd yn nodi a allai fod angen rhagor o wybodaeth cyn dod i’r penderfyniadau gorau ar gyfer ein cymunedau, nawr ac i’r dyfodol. 

Er mwyn sicrhau bod y trafodaethau ar draws y ddau ddiwrnod yn hygyrch, darperir cyfieithiad ar y pryd yn Iaith Arwyddion Prydain. Bydd rhai elfennau o'r cyfarfod yn cael eu cynnal yn Gymraeg, gyda chyfieithu ar y pryd. Gall aelodau o'r cyhoedd sy'n dymuno dilyn y cyfarfod y Bwrdd ar-lein wylio yn y ffordd sy'n diwallu eu hanghenion cyfathrebu orau trwy ddewis y ddolen ddarlledu briodol. 

Mae papurau'r Bwrdd a dolen i'r darllediad byw ar gael ar wefan y Bwrdd Iechyd yma (agor mewn dolen newydd) 

Mae rhagor o wybodaeth am y Cynllun Gwasanaethau Clinigol, gan gynnwys y dogfennau ymgynghori mewn amrywiaeth o fformatau, ar gael ar wefan y Bwrdd Iechyd yma (agor mewn dolen newydd)