Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd i agor dau Ysbyty Maes yn Llanelli a Sir Benfro

Yn dilyn cyfnod helaeth o gynllunio a pharatoi mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cyhoeddi y bydd cleifion sydd angen gofal llai dwys yn ne orllewin Cymru ymhlith y cyntaf i gael eu derbyn i ysbytai maes newydd.

Daw'r cyhoeddiad gan y Bwrdd Iechyd fel rhan o'u hymateb parhaus i bandemig Covid-19. Mae'r strategaeth yn cynnwys agor tua 30 o welyau yng Nghanolfan Selwyn Samuel yn Llanelli ac yn Ysbyty Enfys Carreg Las yn Sir Benfro ar gyfer cleifion nad ydynt yn Covid o ganol mis Tachwedd, a fydd yn caniatáu i'r bwrdd iechyd reoli cleifion a llif yn ein ysbytai acíwt yn well.

Mae’r cleifion - a fydd yn cael gofal gan dîm amlbroffesiynol profiadol gan gynnwys nyrsys, therapyddion a swyddogion cyswllt cleifion - wedi cael eu hasesu fel rhai nad sydd angen unrhyw fewnbwn meddygol, ond yn dal i fod angen rhywfaint o ofal cyn cael eu rhyddhau gartref neu i gyfleuster gofal yn y gymuned.

Mae ysbytai maes wedi'u sefydlu ym mhob un o dair sir Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro fel mesur rhagofalus i alluogi'r GIG i ymateb i'r pandemig COVID cyfredol. Dros yr haf derbyniwyd nifer fach o gleifion i'r cyfleuster yng Nghaerfyrddin fel rhan o beilot o'r gwasanaeth, sydd wedi helpu i lywio sut rydym yn defnyddio'r safleoedd hyn yn ddiogel ac yn briodol.

*Nodwch – nid oes adran frys nac unrhyw wasanaeth cerdded-mewn arall yn unrhyw un o’r ysbytai hyn ac ni ddylai aelodau’r cyhoedd geisio eu defnyddio. Mae cyfyngiadau ar ymweld yr un fath â phob ysbyty arall, ond gall staff gofal iechyd helpu i gysylltu cleifion â’u teuluoedd, gofalwyr a ffrindiau.

Eglura Dr Meinir Jones, arweinydd clinigol yr ysbytai maes a thrawsnewid : “O’r dechrau’n deg, rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio’r ysbytai maes hyn mewn modd hyblyg yn seiliedig ar y gofyn o ganlyniad i’r pandemig Coronafeirws. Mae’r gweithgarwch hwn ynghyd â’n gweithgarwch arferol o ran gofal heb eu drefnu, wedi cyrraedd y lefel y cytunwyd arni fel y lefel y byddai angen capasiti ychwanegol o’r ysbytai maes.

“Gosodwyd y lefel hon yn ôl sawl ystyriaeth gan gynnwys yr angen i fod â’r gallu i dderbyn cleifion COVID i’r prif ysbytai acíwt yn unol â’r galw ar draws y system, gan allu cael y nifer iawn o gleifion i gadw at y mesurau atal heintiau cyfredol a chanllawiau clinigol newydd, ac i adfer rhai gweithdrefnau brys a chritigol eraill sydd wedi’u cynllunio, a hynny mewn modd diogel ar gyfer ein cleifion. ”

Mae staffio ar gyfer y cyfleusterau wedi bod yn bosibl diolch i hyblygrwydd y staff gofal iechyd cyfredol yn Hywel Dda, y mae rhai ohonynt yn gweithio dros dro mewn gwahanol rolau neu’n gweithio mwy o oriau; yn ogystal ag aelodau blaenorol o staff sy'n dychwelyd i'r gwaith a recriwtio ychwanegol.

Ychwanega Dr Jones: “Bydd agor y ddau ysbyty hyn yn rhyddhau rhywfaint o gapasiti yn ein safleoedd acíwt ac yn cefnogi adfer gweithdrefnau brys sydd wedi’u cynllunio. Rydym yn ymwybodol iawn o'r effaith y mae gohirio wedi'i chael ar gleifion ac ansawdd eu bywyd.”

Mae pob un o'n hysbytai maes ar gael i ymateb yn gyflym ac yn hyblyg pe bai angen. Mae ysbytai acíwt, oherwydd eu gallu gofal dwys, mynediad i theatrau a chyflenwadau fel ocsigen, a'r rhwydwaith cymorth o amgylch yr ysbyty, yn y sefyllfa orau i ddelio â chleifion sydd angen ymyrraeth feddygol fwy acíwt ac felly byddant yn parhau i fod y prif safleoedd ar gyfer cleifion sy'n ddifrifol wael (COVID a heb fod yn COVID).

Meddai Andrew Carruthers, Cyfarwyddwr Gweithrediadau BIP Hywel Dda: “Yn ganolog i'n datblygiad o'r ysbytai maes bu'r hyblygrwydd y gallent ei ganiatáu i ni allu rheoli capasiti a'r galw cyffredinol trwy gydol y pandemig hwn.

“Yn anffodus nid yw COVID yn mynd i ddiflannu, ac felly mae angen i ni seilio ein cynlluniau nid yn unig ar sut rydym yn rheoli cleifion COVID, ond hefyd ar sut y gallwn ailgychwyn gwasanaethau eraill a darparu parhad gofal ar draws y system. 

“Mae ein cynllunio a'n darpariaeth yn seiliedig ar gyngor clinigol cenedlaethol a lleol, a bydd yn parhau i wneud hynny, gyda'r nod yn y pen draw o gadw ein poblogaeth mor ddiogel â phosib pan fydd angen iddynt ddefnyddio ein gwasanaethau i gael gofal.”